Cynllun bwyd yn cymryd pobl sy'n byw â chlefyd Coeliag 'o ddifrif'

25/07/2025
Ela Pari Huws

Mae menyw o Gaerdydd sydd yn byw â chlefyd Coeliag yn dweud ei bod yn gobeithio y gallai cynllun newydd leddfu’r pwysau ariannol y mae pobl gyda’r cyflwr yn ei wynebu. 

Fel rhan o gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru bydd cerdyn talu sydd ag arian arno yn barod yn cael ei gyflwyno ar hyd y wlad – a hynny er mwyn rhoi mwy o ddewis i bobl sy'n cael bwyd heb glwten ar bresgripsiwn.

Yn ôl y llywodraeth fe fydd y cerdyn yn caniatáu i bobl sydd â chyflyrau fel clefyd coeliag a dermatitis herpetiformis gael mynediad at ystod ehangach o fwydydd heb glwten mewn archfarchnadoedd ac ar-lein, yn hytrach na dibynnu ar bresgripsiwn yn unig.

Cafodd Ela Pari Huws, 28 oed, ddiagnosis o’r clefyd Coeliag ddeng mlynedd yn ôl, yn ystod ei thymor cyntaf yn y brifysgol yn yr Alban.

Roedd hi’n derbyn bwydydd heb glwten ar bresgripsiwn yn ystod ei chyfnod yno ond yn gweld y broses yn “drafferthus” a “chymhleth.” 

O ganlyniad, penderfynodd beidio â chael ei nwyddau ar bresgripsiwn ar ôl iddi ddychwelyd i Gymru yn 2009.

Ond mae’n dweud bod y broses o siopa am fwydydd heb glwten yn gostus a bod hynny’n achosi straen ychwanegol i nifer o bobl.

Mae’n gobeithio y gallai’r cynllun leddfu’r pwysau ariannol y mae pobl yn eu hwynebu ac yn ddiolchgar bod y llywodraeth bellach yn cymryd y clefyd “o ddifrif" yn “cydnabod bod angen gwneud rhywbeth” er eu lles.

Image
Ela Pari Huws

'Trafferthus'

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd bod y broses o siopa am fwyd yn “rhywbeth rili trafferthus” iddi. 

“O’n i ddim ‘di sylweddoli am sbel gymaint drytach mae bwyd fi i gymharu â bobl eraill, mae o mor ddrud,” meddai. 

Mae’n dweud ei bod hi wedi gorfod talu dros ddwywaith yn fwy am eitem o fwyd heb glwten ynddi o'i gymharu â’r eitem gyfatebol sydd yn cynnwys glwten. 

“Dwi’n lwcus dwi’n gallu fforddio fo ond i lot o bobol mae o’n ychwanegu gymaint ar ben y bwyd arferol," meddai. 

“A dwi meddwl be’ mae’r cynllun yn mynd i ‘neud gobeithio yw rhoi cymorth i bobl i beidio gorfod poeni yn fwy na dim byd. 

“Yn enwedig pobl sydd yn gorfod bwydo teulu cyfan neu sydd yn barod yn cael hi’n anodd yn ariannol.”

Image
Siopa

'Cymryd o ddifrif'

Pan fydd rhywun â chlefyd coeliag yn bwyta glwten - protein a geir mewn gwenith, haidd a rhyg - mae eu corff yn ymosod ar ei feinweoedd ei hun.

Gall hynny achosi niwed i'r perfedd ac arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol os na chaiff ei drin. Yr unig driniaeth yw diet gydol oes, llym, heb glwten.

Dwi’n teimlo bod y clefyd byth yn cael ei gymryd o ddifrif gymaint a dyle fo," meddai.

“Dio ddim yn dewis, fyswn i’n hapus iawn os na fysa rhaid i fi ddim peidio gorfod byta glwten. 

“Ond yn anffodus dyw e ddim yn ddewis, mae o’n gyflwr iechyd lle mae’r ateb ydy peidio byta glwten. 

“Ond ‘di bobl ddim yn cymryd o ddifrif o gymharu a pethe eraill, ond mae byta glwten yn gallu achosi problemau iechyd difrifol. 

“Mae’n rili pwysig bod y llywodraeth yn cymryd o o ddifrif.”

Dywedodd Ela ei bod yn credu bod cynllun o’r fath yn “fwy effeithlon” o gymharu a system presgripsiwn.

Image
Ela

Penderfyniadau 'haws'

Bydd y cynllun cerdyn cymhorthdal ar gyfer bwyd heb glwten yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o dymor yr hydref ymlaen.

Mae'r cerdyn digyswllt yn gweithio fel Mastercard cyffredin wedi'i rag-dalu, a chaiff arian ei ychwanegu ato bob tri mis, meddai Llywodraeth Cymru. 

Bydd pobl sy'n gymwys yn cael cynnig dewis rhwng presgripsiwn traddodiadol ar gyfer bwyd heb glwten neu'r cynllun cerdyn newydd, yn seiliedig ar eu hanghenion penodol.

Mae’r dietegydd Alison Jones wedi bod yn gyfrifol am arwain cynllun peilot ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. 

Dywedodd bod y cerdyn yn ei gwneud hi’n “haws” i bobl allu rheoli eu deiet heb glwten. 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, yn dweud y byddai’r cynllun yn lleihau’r baich ar feddygon teulu a fferyllfeydd “gan roi mwy o ryddid i bobl gael mynediad at y bwyd maen nhw eisiau ei fwyta". 

"I bobl sy'n byw gyda chlefyd coeliag, nid dewis yw dilyn deiet caeth heb glwten ond anghenraid meddygol,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.