Fêps yn cael eu defnyddio i 'gynnau tanau'n fwriadol' mewn carchar yn y gogledd

Feps / Carchar y Berwyn

Mae cynnydd o dros 70% wedi bod mewn tanau bwriadol mewn un carchar yn y gogledd wrth i garcharorion ddefnyddio fêps er mwyn eu cynnau, yn ôl adroddiad.

Cafodd yr adroddiad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei gyflwyno i'r Awdurdod sy'n ei weinyddu yr wythnos hon.

Yn ôl yr adroddiad mae cynnydd o 74.1% mewn tanau bwriadol yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Roedd 63 o danau wedi cael eu cynnau'n fwriadol, gyda'r gwasanaeth tân yn cael eu galw i 47 ohonynt.

Dywedodd yr adroddiad bod y tanau yn "wedi eu cychwyn gan fêps yn bennaf" a hynny gan fod carcharorion yn tynnu'r fêps yn ddarnau a defnyddio'r batri i gynnau tanau.

"Mae nifer y digwyddiadau sydd gennym yno [HMP Berwyn] yn parhau i gynyddu," meddai'r adroddiad.

"Rydym yn ymgysylltu ag Arolygydd y Goron ar gyfer Carchardai EM yn rheolaidd ac roedden ni wedi ei gynorthwyo yn ei raglen arolygu yn HMP Berwyn ddiwedd mis Mai 2025.

"Mae'r digwyddiadau'n ymwneud â fêps yn bennaf, gyda'r dyfeisiau hynny'n cael eu datgymalu a'r batri'n cael ei ddefnyddio er mwyn tanio.

"Yn ystod cyfarfodydd rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r sefyllfa hon trwy edrych ar ddewisiadau eraill gydag Arolygydd y Goron a'i gynorthwyo yn ei ymchwil i'r broblem hon.

"Mae'n annhebygol y bydd digwyddiadau'n lleihau yn y tymor byr oherwydd y mater hwn."

Cynnydd 'sylweddol'

Fe welodd Gwasanaeth Tân ac Achub gogledd Cymru gynnydd "sylweddol" yn nifer y galwadau roedd criwiau wedi mynychu y llynedd, meddai'r adroddiad.

Dros gyfnod y flwyddyn ariannol ddiwethaf cafodd y gwasanaeth eu galw i 6,485 digwyddiad, cynnydd o 9% o gymharu gyda'r flwyddyn cynt.

“Roedd y ffigurau arfaethedig yn dangos mai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru oedd yr unig wasanaeth yng Nghymru i weld cynnydd yn nifer y digwyddiadau a fynychwyd yn ystod y flwyddyn ariannol,” nododd yr adroddiad.

Mynychodd y gwasanaeth gyfanswm o 1,421 o alwadau gwasanaeth arbennig, gan gynnwys gwrthdrawiadau ffyrdd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.