‘Mae bob dydd yn artaith’: Apêl mam chwe blynedd ar ôl diflaniad ei mab

Jordan Moray

Mae mam wedi dweud bod “bob dydd yn artaith” wrth iddi apelio am wybodaeth am ei mab chwe blynedd ar ôl ei ddiflaniad.

Fe aeth Jordan Moray ar goll o’i gartref yng Nghwmbach, Rhondda Cynon Taf ar 24 Gorffennaf 2019.

Roedd ei fflat heb ei gloi, gêm gyfrifiadur yn rhedeg ar ei deledu, a’i ffôn symudol wedi ei adael yn gysylltiedig â phlwg.

Mae ei fam Debbie wedi pledio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am ei mab, a fyddai yn 38 erbyn hyn, i gysylltu â hi.

Er gwaethaf ymchwiliad trylwyr gan Heddlu De Cymru does dim awgrym o le aeth o, meddai'r llu.

Dywedodd Debbie ei bod yn parhau i “lynu wrth y gobaith y bydd un diwrnod yn cerdded trwy’r drws eto”. 

“Mae un flwyddyn yn pylu i’r nesaf, ond rydyn ni’n parhau i chwilio amdano,” meddai.

“Rydyn ni’n caru Jordan o hyd ac yn gweld ei eisiau bob dydd. Rydym wedi torri ein calonnau. 

“Fydda i byth yn rhoi’r gorau i chwilio amdano ac rwy’n gweddïo ei fod yn ddiogel ac yn iach.”

Ychwanegodd: “Rydw i am i Jordan wybod ein bod ni yma iddo beth bynnag oedd y rheswm y tu ôl i’w ddiflaniad. 

“Mae cymaint o weld ei eisiau, mae fel byw hunllef. Nid yw byth yn rhy hwyr iddo estyn allan. 

“Rydyn ni eisiau gwybod ei fod yn ddiogel ac fe fyddwn ni’n ei gefnogi waeth beth fo’r amgylchiadau y gallai fod yn eu hwynebu.

“Mae colled fawr ar ei ôl, ac rydym gymaint eisiau iddo fod yn ôl yn ein bywydau. Rwy’n gweddïo y bydd y neges hon yn ei gyrraedd.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, pa mor ddibwys bynnag y bo’n ymddangos, gysylltu â Heddlu De Cymru, gan ddyfynnu cyfeirnod 1900284205.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.