Ymestyn rhybudd melyn am gawodydd trwm a stormydd i Gymru gyfan
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn rhybudd melyn am gawodydd trwm a mellt a tharanau i Gymru gyfan yn ystod dydd Sul.
Fe ddaeth y rhybudd i rym am 18:00 ddydd Sadwrn ac yn awr mae wedi ymestyn tan 22:00 nos Sul.
Yn wreiddiol roedd y rhybudd yn berthnasol i siroedd y de ond ddydd Sul fe wnaeth y Swyddfa Dywydd ymestyn y rhybudd i gynnwys holl siroedd Cymru.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai cawodydd, a stormydd taranllyd yn gallu arwain at oedi ar y ffyrdd.
Maen nhw'n rhybuddio am amodau gyrru heriol oherwydd dŵr ar y ffyrdd.
Hefyd mae'n bosibl y bydd oedi i wasanaethau trên a bws.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd:
“Disgwylir cawodydd trwm a stormydd mellt a tharanau gwasgaredig yn ystod dydd Sul.
“Bydd maint y glaw yn amrywio o le i le ond mewn rhai lleoliadau mae 20-40 mm yn bosibl o fewn cwpl o oriau.
“Cawodydd trwm o law fydd y prif berygl, ond mae mellt hefyd yn debygol ynghyd â'r potensial am genllysg a gwyntoedd cryfion."