
Eidalwr yn fuddugol wrth i gannoedd gymryd rhan yn Ras yr Wyddfa
Luca Magri o’r Eidal oedd yn fuddugol yn ras y dynion wrth i gannoedd o bobl gymryd rhan yn Ras yr Wyddfa ddydd Sadwrn.
Gorffennodd Luca Magri mewn amser o 1:06:10.
Nancy Scott o Loegr enillodd ras y menywod mewn amser o 1:20:30.
Roedd 450 o redwyr wedi cofrestru yn y dosbarth cyffredinol gyda 40 ychwanegol yn y categori rhyngwladol.
Mae Ras yr Wyddfa yn cael ei hystyried ymhlith y mwyaf heriol o’i bath yn Ewrop.
Mae’r ras, 10 milltir, yn cychwyn a gorffen yn Llanberis gyda’r rhedwyr yn dringo dros 1,000 metr i gopa’r Wyddfa ac yn ôl ar hyd llwybr Llanberis.

Dyma’r 48fed tro i’r ras gael ei chynnal ers ei sefydlu yn 1976.
Roedd nifer y rhedwyr wedi eu cwtogi eleni er mwyn dangos “parch i’r mynydd” meddai’r trefnwyr.
Dywedodd trefnydd y ras Stephen Edwards: “Y prif reswm am hyn yw er mwyn parchu’r rhedwyr ar ddiwrnod y ras, gan fod y mynydd yn mynd yn brysurach bob blwyddyn.
“Rydym yn ymwybodol o erydiad llwybrau troed ar lwybr Llanberis ac yn y blaen, ynghyd â digwyddiadau eraill ar yr Wyddfa bob blwyddyn.
“Roeddem yn teimlo, fel ras leol a drefnir, fod yn rhaid i ni barchu’r mynydd a chyfyngu’r niferoedd, a fydd eraill yn dilyn!”
Prif lun: Trofeo Vanoni