Y Llewod wedi curo Awstralia yn y gêm brawf gyntaf
Mae’r Llewod wedi curo Awstralia yn y gêm brawf gyntaf o 27-19 yn Brisbane ddydd Sadwrn.
Fe sgoriodd y Llewod dri chais yn yr hanner cyntaf gan y canolwr Sione Tuipolotu, y blaenasgellwr Tom Curry a’r bachwr Dan Sheehan.
Fe giciodd y maswr Fin Russell dri throsiad ac un gôl gosb. Fe sgoriodd Marcus Smith, ddaeth ymlaen fel eilydd i Russell, gôl gosb yn ogystal.
Fe ddaeth pwyntiau Awstralia o geisiau gan yr asgellwr Max Jorgensen a’r eilydd o flaenasgellwr Carlo Tizzano gyda throsiad gan yr eilydd Ben Donaldson ddaeth i’r cae fel maswr yn lle Tom Lynagh. Fe sgoriodd Tate McDermott drydydd cais i’r tîm cartref gyda Donaldson yn trosi.
Fe fydd yr ail gêm brawf yn y gyfres o dair yn yr MCG ym Melbourne ddydd Sadwrn nesaf.
Llun: X/British & Irish Lions