Marwolaeth Tonysguboriau: Cyhuddo person arall

Joanne Penny

Mae’r 11eg person wedi ei gyhuddo yn dilyn marwolaeth menyw 40 oed gafodd ei saethu yn farw.

Bu farw Joanne Penney ar ôl cael ei saethu yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf ar 9 Mawrth.

Clywodd agoriad cwest ym mis Mawrth fod Ms Penney wedi marw ar ôl cael ei saethu yn ei brest, gydag anafiadau i'w chalon a'i hysgyfaint.

Cafodd Callum Kelleher, 36 oed o Lerpwl, ei gyhuddo o gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol ac yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol.

Fe ymddangosodd Kelleher yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn ac fe fydd nawr yn wynebu achos llys ym mis Hydref ynghyd â deg o bobl eraill sydd wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Joanne Penney.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.