Carchar i fam-gu oedd yn bennaeth teulu wnaeth ddosbarthu cyffuriau i Gaerdydd
Mae mam-gu 65 oed oedd yn bennaeth ar deulu oedd yn dosbarthu cyffuriau gwerth £80 miliwn ar draws y DU gan gynnwys Cymru wedi cael ei charcharu am 20 mlynedd.
Roedd Deborah Mason a’i theulu yn gyfrifol am gyflenwi bron i dunnell o gocên dros saith mis yng Nghaerdydd, Llundain, Bradford, Caerlŷr, Birmingham a Bryste rhwng Ebrill a Thachwedd 2023.
Cafodd Mason, a elwir yn “Queen Bee”, ac aelodau eraill o’i theulu, eu dedfrydu yn Llys y Goron Woolwich i gyfanswm o 106 o flynyddoedd yn y carchar.
Roedd Mason yn trefnu fod mamau ifanc a oedd yn rhan o’r gang yn mynd â’u plant ifanc i gasglu’r cyffuriau.
Clywodd y llys ei bod hi hefyd yn derbyn dros £50,000 y flwyddyn mewn incwm budd-daliadau yn ystod cyfnod y cynllwyn ac yn gwario’n hael ar bethau moethus.
Yn dilyn y dedfrydu dywedodd Robert Hutchinson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Nid teulu cyffredin oedd hwn.
“Yn lle meithrin a gofalu am ei pherthnasau, fe’u recriwtiodd Deborah Mason i sefydlu menter droseddol hynod broffidiol a fyddai’n y pen draw yn eu rhoi nhw i gyd y dan glo.”
Dywedodd y Ditectif Cwnstabl Met Jack Kraushaar, a arweiniodd yr ymchwiliad, fod y cynllun yn “weithrediad soffistigedig”.
Ychwanegodd: “Cafodd y grŵp eu denu at droseddi, wedi’u denu’n hunanol gan fanteision ariannol i ddelio cyffuriau i ariannu ffyrdd o fyw moethus.
“Doedden nhw ddim yn ymwybodol ein bod ni’n dod amdanyn nhw a dylai’r ddedfryd hon weithredu fel rhybudd i’r rhai sy’n meddwl am gyflawni’r math hwn o drosedd.”
Llun: Heddlu'r Met