Ras yr Wyddfa: Rhedeg er cof am ffrind yn ei 'hoff ras'

Gareth James a Marc Beasley

Mae dyn o Sir Gâr yn rhedeg Ras yr Wyddfa am y tro cyntaf eleni, a hynny er cof am ffrind a oedd yn mwynhau rhedeg y ras bob blwyddyn.

Mae Gareth James, 37 oed, o Felingwm, ger Nantgaredig, wedi bod yn paratoi dros y misoedd diwethaf ar gyfer y ras 10 milltir eithafol, sydd yn dringo i gopa’r Wyddfa cyn ymlwybro yn ôl i’r llinell derfyn ym mhentref Llanberis.

Mae ganddo reswm arbennig am geisio cwblhau’r her wrth iddo redeg er cof am Marc Beasley, ei ffrind ers ysgol uwchradd, a fu farw’n sydyn y llynedd yn 37 oed.

Yn chwaraewr yng Nghlwb Rygbi Crymych, roedd Marc yn hoff o heriau corfforol eithafol, ac roedd y ras yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn iddo, yn ôl ei ffrind.

Dywedodd Gareth, sy’n dad i dri o blant: “Oedd e’n rhedwr brwd, roedd o’n gneud Ironmans a phethau, ond oedd o wedi gwneud Ras yr Wyddfa ar sawl achlysur.

 “Mi oedd y ras yn un o’r pethau oedd e’n mwynhau fwyaf ac fel grŵp o ffrindiau, ni’n teimlo mai hwn oedd y ffordd orau o dalu teyrnged iddo.”

Image
Marc Beasley
Marc Beasley

Bu farw Marc, o Henllan Amgoed, yn annisgwyl o ganlyniad i broblem ar ei galon.

“Roedd yn anferth o golled i’r gymuned,” meddai Gareth.

“Oedd popeth oedd e’n wneud, oedd e’n gwneud heb ei ail. Oedd o’n andros o frwdfrydig a tipyn o gymeriad. Doedd dim byd yn ei ddal yn ôl. 

“Oedd rhywbeth fel Ras yr Wyddfa yn apelio iddo fo achos oedd o just ddim yn becso dim, oedd o’n trio a trio nes oedd e methu.”

'Cefnogol'

Yn gweithio fel meddyg anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, penderfynodd Gareth y byddai hefyd yn gwneud yr her er mwyn codi arian ar gyfer achos sy’n bwysig iddo ef a’i gyd-weithwyr, Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Gareth bellach wedi llwyddo i godi dros £1,000 ar ei dudalen codi arian Justgiving.

“Oni’n meddwl, os allai godi ychydig o bres at achos da, wel hyd yn oed gwell, ac mae pawb wedi bod yn hael dros ben.

“Mae gen i gyd-weithwyr sy’n gweithio iddyn nhw, sydd hefyd yn anaesthetists, a dwi’n gweld y gwaith arbennig maen nhw’n wneud fel gwasanaeth maen nhw’n cynnig i gefn gwlad Cymru ac yn rhoi siawns i bobl sy’n cael trawiad ar y galon a phethau.

“Mae'n rhywbeth dwi’n teimlo, a dwi di siarad efo teulu Marc, ac maen nhw’n gefnogol iawn o godi arian iddyn nhw. “

Meddwl am Marc

Er ei fod wedi cydbwyso hyfforddi am y ras gyda bywyd teulu a gwaith prysur dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Gareth yn dweud ei fod yn barod amdani.

“Mae o wedi bod yn heriol," meddai. "Swn i licio wedi gwneud mwy o hyfforddi. 

"Ond mae’r wraig wedi bod yn gefnogol iawn yn hel fi allan am runs dwywaith, dair yr wythnos, i fyny ag i lawr bryniau Sir Gaerfyrddin a cael y mileage i fewn.

"Mae mynydda a dringo yn wastad di bod yn agos at fy nghalon i ond mae rhedeg yn rhywbeth sydd 'di dod yn fwy diweddar, felly mi fydd yn her wahanol i fi, ond dwi’n nabod mynyddoedd Eryri yn dda o’r rhan eu dringo a'u cerdded nhw."

Fe ychwanegodd: “Gwneud e er mwyn Marc ydw i mwy na dim – er bod e’n her bersonol, a mae hwn yn rhywbeth newydd i mi.

"Dwi’n wneud hyn er mwyn cofio am Marc a meddwl am atgofion o’n amser ni yn yr ysgol, a’r adegau da.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.