Teyrnged i daid o'r Rhyl a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Henffordd

Jimmy Aspinall

Mae teulu dyn 72 oed o’r Rhyl a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Henffordd wedi rhoi teyrnged i dad, taid a gŵr oedd “â chalon llawn caredigrwydd”.

Cafodd yr heddlu eu galw i ffordd yr A465, ger Allensmore, fore Sadwrn wedi'r gwrthdrawiad.

Roedd Jimmy Aspinall, oedd yn gyrru beic modur, wedi bod mewn gwrthdrawiad â char. Bu farw’r gŵr 72 oed yn y fan a’r lle.

Wrth roi teyrnged, dywedodd ei deulu ei fod “wedi marw yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu.”

Roedd Mr Aspinall wedi treulio 40 mlynedd yn gweithio ar draws gogledd Cymru yn trwsio toau, ac roedd yn feiciwr modur brwd, gan sefydlu clwb beicio modur Whistlestop MCC gyda’i ffrindiau. Roedd hefyd yn DJ, yn cynnal nosweithiau cerddoriaeth northern soul.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: “Mae’n calonnau'n torri i rannu’r newyddion am farwolaeth annisgwyl Jimmy Aspinall, sydd wedi ein gadael lawer iawn yn rhy fuan.

“Roedd Jimmy yn ŵr ymroddedig i Paula, yn dad cariadus a balch i Helen, Niki, John, a Sara, yn frawd annwyl i Carl a Patricia (Tish), ac yn daid cariadus i Leon, Eleri, Charlie, Nyla, Jack, a Noah.

“Roedd gan Jimmy galon yn llawn caredigrwydd, bob amser yn chwilio am ffyrdd i roi rhywbeth yn ôl, bob amser y cyntaf i roi help llaw, a bob amser yn rhoi eraill o'i flaen ei hun.

“Fe wnaeth adael y byd hwn gan wneud yr hyn yr oedd yn ei garu fwyaf – reidio ei feic modur. Mae'n gysur gwybod, yn ei eiliadau olaf, ei fod yn mwynhau bod ar y ffordd agored.

“Fe wnaeth Jimmy gyffwrdd â chymaint o fywydau, trwy garedigrwydd, hiwmor, haelioni, a’i ymroddiad i wneud y byd ychydig yn fwy disglair. 

"Mae’n gadael gwaddol o gariad, chwerthin a theyrngarwch na fydd byth yn cael ei anghofio."

Mae Heddlu Mercia yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw gydag unrhyw wybodaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.