Dau arall wedi eu cyhuddo ar ôl marwolaeth dynes yn Nhonysguboriau
Mae dau berson arall wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dynes 40 oed yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Joanne Penney ar 9 Mawrth ar ôl iddi gael ei saethu yn Llys Illtyd, Tonysguboriau.
Mae Laura John, 22 oed o Riwbeina, Caerdydd, a Donna James, 50 oed o Lanisien, Caerdydd wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher.
Mae wyth o bobl eraill wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd i wadu cyhuddiadau mewn cysylltiad â marwolaeth Joanne Penney.
Mae'r cyhuddiadau yn cynnwys llofruddiaeth, cynorthwyo troseddwr, a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol.
Clywodd cwest a agorodd fis Mawrth bod Ms Penney wedi marw ar ôl cael ei saethu yn ei brest. Cafodd anafiadau i'w chalon a'i hysgyfaint.