Abertawe: Menyw 61 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad
Llun: Robin Leicester
Mae menyw 61 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Bont Llwchwr yn Abertawe.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r bont am 22:58 nos Sul.
Roedd un car wedi bod mewn gwrthdrawiad, sef Ford Puma glas oedd yn teithio ar hyd y bont i gyfeiriad Gorseinon.
Dywedodd yr heddlu bod menyw 61 oed o Aberdâr wedi marw o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.
Mae teulu'r fenyw wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio i unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad ac yn gofyn iddyn nhw gysylltu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 2500223360.