Maes awyr Southend yn parhau ar gau wedi damwain awyren

Maes Awyr Southend

Mae maes awyr Southend yn Llundain yn parhau ar gau ar ôl damwain awyren ar y safle.

Fe ddywedodd Heddlu Essex eu bod wedi eu galw toc cyn 16:00 brynhawn dydd Sul wedi "adroddiadau o wrthdrawiad oedd yn ymwneud ag un awyren 12 metr" yn y maes awyr. Does yna ddim cadarnhad wedi bod o safbwynt y nifer sydd wedi eu hanafu.

Dywedodd y llu bod hwn yn "ddigwyddiad mawr".

Mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos mwg du a thân ac fe wnaeth rhai llygad dystion ddisgrifio gweld "pelen o dân" yn yr awyr.

Mae Zeusch Aviation, sydd wedi eu lleoli yn yr Iseldiroedd wedi cadarnhau bod eu hawyren SUZ1 wedi "bod yn gysylltiedig â'r ddamwain" ym maes awyr Southend. 

Yn ôl eu datganiad mae'r cwmni yn "cefnogi'r awdurdodau gyda'u hymholiadau" ac mae eu "meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio."

Roedd yr awyren wedi hedfan o brif ddinas Groeg, Athens i Pula yng Nghroatia ddydd Sul cyn dod i Southend. Y bwriad wedyn oedd y byddai yn dychwelyd i Lelystad yn yr Iseldiroedd nos Sul.

Mae pob hediad awyren wedi eu canslo yn y maes awyr ac mae pobl sydd fod i deithio dydd Llun yn cael eu cynghori i gysylltu gyda'u cwmni hedfan.

Dywedodd maes awyr Southend eu bod yn "meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio" a'u bod yn bwriadu ail gychwyn hedfan awyrennau cyn gynted ag sy'n bosib. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.