Ymosodiad Parc Biwt: Marwolaeth dyn yn arwain at ymchwiliad llofruddiaeth
Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod dyn oedd wedi dioddef ymosodiad difrifol ym Mharc Biwt ym mis Gorffennaf wedi marw.
Roedd Dr Gary Jenkins o Fae Caerdydd mewn cyflwr difrifol yn dilyn yr ymosodiad yn oriau man fore dydd Mawrth, 20 Gorffennaf.
Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ddydd Iau, 5 Awst.
Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel “tad cariadus i ddwy ferch hyfryd”.
“Roedd yn byw ei fywyd yn hapus gyda chariad, cerddoriaeth, creadigrwydd ac roedd wedi ymroi i’w broffesiwn.”
Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd.
Mae tri o bobl wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio, ac nid yw’r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall fel rhan o’u hymchwiliad.
Mae Jason Edwards, 25, Lee William Strickland, 36, y ddau o Gaerdydd, a merch 16 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cael eu cadw yn y ddalfa nes eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar Awst 23.
Symud i ymchwiliad llofruddiaeth
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Stuart Wales o Heddlu De Cymru:
“Rydym yn ymwybodol o farwolaeth drist Dr Gary Jenkins ac mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau ar yr adeg hon.
“Rydym mewn cysylltiad â Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chrwner EM mewn perthynas â'i farwolaeth, a bydd y mater hwn nawr yn cael ei symud ymlaen fel ymchwiliad llofruddiaeth.
“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cymorth gwerthfawr wrth inni barhau i ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad.
“Tra bod y tri pherson wedi’u cyhuddo, rydyn ni’n dal i apelio am wybodaeth."
Ychwanegodd y gallai’r wybodaeth leiaf fod yn ddefnyddiol, gan ddweud y hoffem glywed gan unrhyw un oedd ger Parc Biwt yn ystod oriau mân ddydd Mawrth, Gorffennaf 20 a ger pont droed y Mileniwm, sy’n cysylltu Parc Biwt a Gerddi Sophia.