
'Gwerthfawr': Grwpiau LHDTC+ yn 'allweddol' yng nghefn gwlad
'Gwerthfawr': Grwpiau LHDTC+ yn 'allweddol' yng nghefn gwlad
Mae grwpiau LHDTC+ yn "allweddol" yng nghefn gwlad, meddai sylfaenydd grŵp rhedeg newydd i'r gymuned yng Nghaernarfon.
Fe wnaeth Seiriol Dawes-Hughes, 38, sefydlu'r grŵp Loncian Lliwgar ym mis Mai er mwyn creu gofod i aelodau o'r gymuned LHDTC+ a'i ffrindiau gymdeithasu.
Yn ôl y cynhyrchydd teledu mae'n bwysig i ddangos i bobl LHDTC+ sy'n byw mewn ardaloedd gwledig nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.
"Dw i'n meddwl mewn lle fel Caernarfon lle does 'na ddim lle amlwg i bobl LHDTC+ gwrdd, 'sa ddim tafarn hoyw na dim byd, felly mae cael grŵp fel hyn yn allweddol," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae'r bobl yn gallu teimlo ar wasgar, teimlo'n unig, felly mae dod at ein gilydd i neud gweithgaredd fel hyn a cael sgwrs yn golygu bo' chi'n gallu cwrdd â phobl o oedrannau gwahanol, cefndiroedd gwahanol, hunaniaethau gwahanol.
"Ac mae hynny'n bwysig i ni fel cymuned, i ni weld profiad ein gilydd a chefnogi ein gilydd."
A hithau'n benwythnos Balchder Gogledd Cymru, bydd y grŵp yn dathlu'r digwyddiad ddydd Sul drwy redeg 5km o amgylch y dref.
Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 2011 gan y diweddar Keith Parry er mwyn rhoi cyfle i ardaloedd gwledig ddod at ei gilydd i ddathlu a chefnogi'r gymuned LHDTC+.
'Rhannu profiadau yn bwysig'
Mae'r grŵp Loncian Lliwgar yn cyfarfod yn wythnosol yng Nghaernarfon hynny fel arfer ar fore dydd Sul.
"'Da ni'n neud o ar gyflymdra sy'n siwtio pawb, does neb yn cael eu gadael ar ôl – a'r syniad ydi bod yn gynhwysol i bobl sy' isho mynd allan a rhedeg," meddai.
"Mae 'na rhai pobl o ddifri ac yn paratoi ar gyfer gwahanol rasys, mae 'na bobl eraill sy' jyst yn rhedeg er mwynhad.
"Ond y pwyslais ydi bod ni'n cael amser cymdeithasol braf gyda'n gilydd."

Yn ôl un aelod o'r grŵp, mae Loncian Lliwgar yn rhoi cyfle i bobl o'r gymuned LHDTC+ i "rannu profiadau".
"Y rheswm neshi benderfynu ymuno efo'r grŵp oedd oherwydd neshi ond dod allan 'chydig o flynyddoedd yn ôl," meddai Annes Wyn, 40 oed.
"A mae hwnna'n gallu bod yn brofiad rili ofnus a unig achos 'da chi'n meddwl bo' chi gwbl ar eich pen eich hunain.
"O'n i'n mor falch bo' fi wedi dod o hyd i criw Llyfrau Lliwgar i ddechrau, a wedyn grŵp Loncian Lliwgar."

Ychwanegodd: "Dwi'n aelod o glybiau rhedeg eraill ond mae 'di bod yn ffantastig i fi allu ymuno efo Loncian Lliwgar, achos mae hi'n mor bwysig gallu rhannu profiadau efo pobl sydd 'di bod drwy profiadau tebyg i chi.
"Maen nhw'n brofiadau unigryw iawn a dwi mor falch bo' fi wedi gallu cyfarfod criw newydd o bobl sy'n mwynhau rhedeg a sy'n gallu trafod yr un profiadau."