'Modd osgoi' tân Heathrow medd adroddiad
Mae Ofgem wedi dweud eu bod yn ymchwilio ar ôl i ganfyddiadau adroddiad nodi y byddai wedi bod yn bosib osgoi’r tân a wnaeth gau maes awyr Heathrow.
Fe ddigwyddodd y tân yn is-orsaf drydan y maes awyr ar 20 Mawrth 2025.
Mae adroddiad gan y gweithredwr Neso (‘National Energy System Operator’) bellach wedi nodi y byddai wedi bod yn bosib osgoi’r tân a gafodd ei achosi gan nam technegol.
Ym mis Gorffennaf 2018, roedd profion wedi dangos bod yna “leithder uchel” mewn samplau o olew o’r is-orsaf yng Ngogledd Hyde yng ngorllewin Llundain.
Er hynny doedd dim camau wedi cael eu cymryd er mwyn ail-osod insiwleiddwyr trydanol newydd, dyfais sy'n cael ei alw yn 'bushing'.
Roedd yna benderfyniad yn 2022 i “oedi gwaith cynnal a chadw sylfaenol” yno gan olygu nad oedd neb wedi mynd i’r afael a’r sefyllfa, medd yr adroddiad.
Mae Ofgem bellach wedi dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad swyddogol i gangen drydanol y Grid Cenedlaethol, sef NGET, ar sail canfyddiadau’r adroddiad.
'Methiant trychinebus'
Roedd “methiant trychinebus” yn un o’r trawsnewidyddion – a oedd yn debygol o fod wedi ei achosi gan leithder yn mynd i mewn i’r ‘bushing’ – wedi achosi cylched fer gan danio’r olew, meddai adroddiad Neso.
Dywedodd bod adolygiad gan y Grid Cenedlaethol yn 2022 wedi dangos fod y system diffodd tân ar y safle yn “anweithredol.”
Roedd asesiad arall ym mis Gorffennaf 2024 yn dangos bod y system yn dal “allan o wasanaeth.”
Fe wnaeth y maes awyr barhau ar gau nes tua 18.00 ar 21 Mawrth. Fe gafodd dros 270,000 o hediadau teithwyr eu heffeithio.
Dywedodd Akshay Kaul, Cyfarwyddwr Cyffredinol seilwaith Ofgem: “Rydym yn disgwyl i gwmnïau ynni gynnal a chadw eu hoffer a’u rhwydweithiau’n iawn i atal digwyddiadau fel hyn rhag digwydd.
“Lle mae tystiolaeth nad ydynt wedi gwneud hynny, byddwn yn cymryd camau gweithredu ac yn dwyn cwmnïau i gyfrif.”
'Gweithredu'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Heathrow eu bod yn “croesawu’r adroddiad” ddydd Mercher.
Dywedodd y llefarydd mai “cyfuniad o reoliadau hen ffasiwn, mecanweithiau diogelwch annigonol a methiant y Grid Cenedlaethol” oedd yn gyfrifol am y tân.
“Rydym yn disgwyl i’r Grid Cenedlaethol ystyried yn ofalus pa gamau y gallant eu cymryd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.”
Dywedodd hefyd eu bod yn y broses o weithredu 28 o argymhellion yn dilyn adroddiad blaenorol a gafodd ei arwain gan y cyn-weinidog cabinet Ruth Kelly.
Mae llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol wedi dweud eu bod yn “hollol gefnogol” o’r argymhellion yn adroddiad Neso a’u bod wedi ymrwymo i gydweithio gyda nhw.
Maent wedi gweithredu ers y tân meddant drwy adolygu eu proses o brofi olew yn ogystal â gwella asesiadau risg ar gyfer tanau “ym mhob safle gweithredol,” a thrwy “ailbrofi gwydnwch” eu his-orsafoedd.