Newyddion S4C

S4C a'r BBC i ddarlledu taith Cymru i Japan

Dewi Lake

Bydd S4C a’r BBC yn darlledu gêm yr un o daith tîm rygbi Cymru i Japan fis Gorffennaf.

Fe fydd y BBC yn darlledu'r gêm brawf gyntaf o Stadiwm Mikuni World yn Kitakyushu ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf.

Yna fe fydd yr ail gêm brawf yn Stadiwm Noevir yn Kobe ar ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf yn cael ei darlledu ar S4C.

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno’r ddwy gêm ar y BBC ac ar S4C. Bydd sylwebaeth ar Scrum V Live gan Gareth Rhys Owen a Richie Rees, gyda’r gwesteion yn cynnwys Alun Wyn Jones a Rhys Patchell.

Ar S4C, bydd Ken Owens a Rhys Patchell yn ymuno â Sarra Elgan ar gyfer Clwb Rygbi, gyda sylwebaeth gan Cennydd Davies a Gwyn Jones. Bydd Gareth Rhys Owen a Richie Rees hefyd ar gael drwy'r Botwm Coch.

Dywedodd Sarra Elgan bod hi'n “fraint” i gael cyflwyno’r gemau.

“Efallai nad yw Cymru wedi cael y canlyniadau maen nhw moyn yn ddiweddar, ond mae digon o reswm i fod yn obeithiol a chyfle i dyfu fel tîm,” meddai.

“Mae’r daith hon yn gyfle i unigolion i ddatblygu ac i greu argraff.”

Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Mae’n newyddion gwych ein bod yn gallu cadarnhau BBC Cymru Wales ac S4C fel ein partneriaid darlledu ar gyfer y daith hon i Japan.

“Mae’r bartneriaeth yma’n golygu y gall ein cefnogwyr wylio pob eiliad o’r ddwy gêm brawf – boed hynny’n Gymraeg neu’n Saesneg.

“Mae’n bwysig i ni fel Undeb ein bod yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant ein gwlad trwy gyfrwng y darllediadau – fydd yn dangos yr angerdd sydd greiddiol i rygbi Cymru i gynulleidfaoedd ym mhedwar ban byd.” 

Llun: Capten Cymru Dewi Lake gan Asiantaeth Huw Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.