Pwy yw Mingge Xu? Y ferch o Gymru fydd yn wynebu Raducanu yn Wimbledon
Fe fydd merch yn ei harddegau o Gymru, Mingge Xu, yn wynebu Emma Raducanu yn Wimbledon brynhawn dydd Llun.
Fe wnaeth y ferch 17 oed o Abertawe dderbyn cerdyn gwyllt (wild card) gan Glwb All England, gwobr am y potensial y mae hi wedi'i ddangos dros y blynyddoedd.
Ar hyn o bryd mae hi yn safle rhif 318 yn y byd yn nhabl Cymdeithas Tenis y Merched ac wedi ennill dwy fuddugoliaeth yn erbyn chwaraewyr yn y 100 uchaf.
Dyma'r tro cyntaf iddi ymddangos yn y Grand Slam yn Wimbledon ac fe fydd hi'n wynebu ei "hysbrydoliaeth" Raducanu yn y rownd gyntaf brynhawn Llun.
"Roeddwn i yn yr academi genedlaethol yn Loughborough pan oedd Emma yn chwarae yn rownd derfynol Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau ac mi oeddwn i a'r holl ferched oedd yn byw yno yn ei gwylio," meddai Xu wrth BBC Sport.
"Roedden ni i gyd wedi ymgynnull o amgylch y teledu - roedd yn hollol anhygoel.
"Mae hi'n rhywun rydw i wedi edrych i fyny ati ac rydw i'n meddwl ei bod hi'n fodel rôl dda iawn i'w chael."
Xu yw'r chwaraewr cyntaf o Gymru i sicrhau lle yng nghystadleuaeth senglau menywod Wimbledon mewn 20 mlynedd.
Y Gymraes ddiwethaf i chwarae ym mhrif gêm Wimbledon cyn Xu oedd Joanna Konta a hynny ar ddechrau'r 2000au.
Fe wnaeth Xu gyrraedd rownd yr wyth olaf yn Mhencampwriaeth Agored Awstralia i blant y llynedd a rownd gynderfynol Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau i blant, gan ddangos potensial ar hyd y ffordd.
Daw ei hymddangosiad cyntaf yn Wimbledon yn dilyn ei pherfformiad calonogol ym Mhencampwriaeth Agored Birmingham ym mis Mehefin, lle wnaeth hi guro Alycia Parks, sydd yn safle rhif 52 y byd, yn y rownd gyntaf.
Fe aeth Xu ymlaen i gyrraedd rownd yr wyth olaf yn nhwrnamaint yr WTA 125, gan golli yn y pen draw i Jessika Ponchet.
Yna, yn ddiweddarach ym mis Mehefin, fe ddaeth Xu yn fuddugol yn erbyn chwaraewr arall yn y 100 uchaf, gan guro rhif 96 y byd Katie Volynets yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Agored Nottingham.
Ond colli oedd ei hanes yn erbyn Magda Linette yn rownd nesaf y bencampwriaeth honno.
Safle presennol Xu yw ei safle uchaf hyd yn hyn, sef rhif 318 yn y byd.
Raducanu yw rhif un menywod Prydain ac mae hi'n rhif 38 yn y byd, ar ôl bod mor uchel â rhif 10 yn 2022.