Menywod pêl-droed Cymru yn 'teimlo'r cyffro' cyn Euro 2025
Menywod pêl-droed Cymru yn 'teimlo'r cyffro' cyn Euro 2025
Gyda llai nag wythnos cyn i fenywod Cymru wynebu’r Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf ym mhencampwriaeth Euro 2025, bydd y chwaraewyr yn "teimlo'r cyffro" meddai cyn-gapten Cymru.
"Mi fydd popeth yn weladwy... Fydd y nerfau falle yn cicio mewn. Ond bydden nhw yn gyffrous. Ond unwaith chi yn yr awyrgylch yna fi'n credu bod e yn realiti a wedyn mae'r gemau yn mynd i ddod yn go glou," meddai Kath Morgan wrth raglen Newyddion S4C.
Mae'r chwaraewyr ar hyn o bryd yn ymarfer ym Mhortiwgal.
"Mae jest yn strwythur proffesiynol nagyw e. Mae lot o timau yn neud hynny jest i falle symud i ffwrdd o sylw'r wasg a ma nhw yn gallu canolbwyntio ar paratoadau nhw yn drylwyr heb y camerâu fel petai," meddai.
"Fi'n siŵr bod nhw yn gweithio ar tactegau nawr ar gyfer y gemau yn y pencampwriaeth.
"Fi'n credu bod e'n bwysig bod y merched jest yn trio ymlacio a bod ffocws gyda nhw mewn awyrgylch hyfryd."
Mae'n credu bod Rhian Wilkinson, rheolwr y tîm wedi dewis pa fenywod fydd yn chwarae yn barod yn y gêm gyntaf, ond y bydd ganddi "gynllun A, B a C" ar gyfer bob posibilrwydd.
'Gallu cystadlu'
Bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf ddydd Sadwrn, gyda’r rownd gynderfynol ar 22 Gorffennaf a’r rownd derfynol ar 27 Gorffennaf.
Pe bai Cymru neu Lloegr yn cyrraedd rowndiau cynderfynol cystadleuaeth UEFA Euro 2025 yn y Swistir, fe fydd tafarndai yn y ddwy wlad yn cael aros ar agor yn hwyrach.
Yn ôl corff masnachol y British Beer and Pub Association (BBPA), fe allai Euro 2025 greu hwb o £13 miliwn i’r economi yn y DU.
Mae disgwyl y bydd 2.6 miliwn yn fwy o beintiau yn cael eu prynu yn ystod y bencampwriaeth. Daw'r ffigwr hynny ar sail y cynnydd sy'n cael ei amcangyfrif yn nifer y diodydd cwrw sy’n cael eu gwerthu yn ystod y gemau o'i gymharu â'r cyfartaledd dyddiol blynyddol.
Mae Kath Morgan yn dweud y bydd chwaraewyr Cymru yn edrych ymlaen at yr her sydd i ddod trwy gystadlu yn Euro 25.
"Byddan nhw yn falch o gynrychioli Cymru ar lwyfan mawr," meddai.
"Fi'n credu bod y tîm isie dangos i bawb pa mor llwyddiannus ma nhw yn gallu bod a faint ma nhw yn gallu cystadlu a bod nhw digon da i fod yna ymysg goreuon Ewrop."