Pob ffôn symudol i dderbyn rhybudd argyfwng cyhoeddus rhyw ben eleni
Bydd rhybudd argyfwng cyhoeddus yn cael ei anfon i bob ffôn symudol yn y DU eleni, gan achosi larwm i ganu am 10 eiliad.
Y tro diwethaf i bobl Cymru dderbyn rhybudd o’r fath oedd adeg Storm Darragh, pan dderbyniodd tua 3 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr y rhybudd cyhoeddus.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch 'perygl i fywyd' prin ar y pryd pan ganodd y larwm ym mis Rhagfyr 2024 - gan greu cryn sioc i lawer.
Mae’r rhybudd yn achosi i ffonau symudol greu sŵn uchel fel seiren, gan bara am 10 eiliad.
Cafodd system Rhybuddion Argyfwng Llywodraeth y DU ei brofi’n gyntaf ym mis Ebrill 2023. Y nod yw rhybuddio pobl pan fydd perygl i fywyd gerllaw.
Cafodd llawer o bobl eu syfrdanu gan sŵn uchel y larwm yn y gorffennol, ond mae llefarydd ar ran Swyddfa'r Cabinet Llywodraeth y DU wedi dweud nad dyna yw’r bwriad.
Y gobaith yw y bydd yn rhoi gwybod i bobl bod perygl uniongyrchol i’w bywydau mewn achosion pan nad yw'n canu fel achos o arbrawf yn unig, ond mewn gwir argyfwng.
Maen nhw’n dweud y gallai’r system achub bywydau yn y pen draw.
Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi pa bryd yn union y bydd y rhybudd yn canu ar ffonau symudol yn y dyfodol agos. Yn dilyn hynny, fe fydd y system yn cael ei brofi eto ymhen dwy flynedd.
Y rhybudd
Mae disgwyl i’r neges gael ei dderbyn ar ffonau symudol 4G a 5G ynghyd â sain a chryndod am hyd at 10 eiliad, hyd yn oed os yw dyfeisiau'n dawel.
Bydd defnyddwyr ffonau symudol yn cael eu hannog i glicio "OK" ar eu sgrin neu wthio'r neges o'r neilltu cyn gallu parhau i ddefnyddio eu dyfais.
Mae disgwyl i’r rhybudd gyrraedd ffonau symudol pobl eleni wrth i’r llywodraeth annog pobl i fod yn barod am unrhyw argyfwng – gan gynnwys tywydd eithafol a pherygl sy’n gysylltiedig â rhyfel.