Newyddion S4C

Hofrennydd yn achub pobl o'r môr ger Ynys y Barri

RNLI BARRI

Mae nofiwr oedd wedi mynd i drafferthion oddi ar arfordir Bro Morgannwg wedi gorfod cael ei achub o'r môr gan hofrennydd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i achub y nofiwr oedd wedi ei "ysgubo i ffwrdd o'r lan gan lanw cyflym" ger Ynys y Barri dros y penwythnos.

Roedd criw gwirfoddol RNLI Doc y Barri wedi eu galw ddydd Sadwrn, Mehefin 21, yn dilyn adroddiadau fod y person yn mynd yn bellach i ffwrdd o'r lan ger Nells Point.

Wrth i'r bâd achub gyrraedd y lleoliad, fe gafodd y person ei godi o'r dŵr gan hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau.

Fe aeth yr hofrennydd ymlaen i lanio ym Mae Whitmore.

Image
RNLI

Wedi i'r person gael ei gludo'n ddiogel i'r lan gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau, fe gadarnhaodd yr RNLI eu bod wedi cymryd gofal o'r person, gan fod yr hofrennydd wedi gorfod dychwelyd i'r ganolfan lle mae'r gwasanaeth wedi ei leoli gan eu bod bellach yn brin o danwydd.

Dywedodd yr RNLI fod y person wedi derbyn cymorth cyntaf unwaith iddynt gyrraedd bwrdd yr hofrennydd, gan ddweud bod y person yn oer ac yn crynu, ac fe roddwyd ocsigen ar unwaith.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran yr RNLI eu bod hefyd wedi rhoi triniaeth i geisio atal unrhyw anafiadau pellach oherwydd oerfel, a gwneud hynny drwy lapio'r person mewn blancedi a'u rhoi mewn bag goroesi er mwyn sefydlogi tymheredd y corff.

Image
RNLI

Wedi i'r person dderbyn triniaeth ocsigen ac ailymuno â'u teulu, fe gafodd y claf ei symud at gerbyd y teulu a oedd wedi parcio ar y prom yn Ynys y Barri, er mwyn cysgodi rhag y gwynt a'r glaw.

Gan nad oedd ambiwlans ar gael am sawl awr, fe gytunwyd y byddai'r claf yn cael ei gludo'n uniongyrchol i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghaerdydd.

Fe gynghorodd criw gwirfoddol yr RNLI i'r teulu beidio â dychwelyd adref i ganolbarth Lloegr nes fod y claf wedi derbyn sylw meddygol.

Dywedodd y Llywiwr yng Ngorsaf Bad Achub Doc y Barri, Andy Gavan: "Roedd hwn yn enghraifft wych o weithio amlasiantaeth ar ei orau, gyda chriw'r hofrennydd, timau achub Gwylwyr y Glannau a'n gwirfoddolwyr i gyd yn cydweithio i sicrhau bod y claf yn derbyn y gofal cywir, yn gyflym.

"Rwy'n hynod falch o'n criw - roedd eu hyfforddiant, eu dull tawel a'u gofal rhagorol i gleifion yn berffaith."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.