Eden a Rose Datta yn rhan o gân yr Urdd i ddathlu Euro 2025
Bydd Eden a Rose Datta yn rhan o gân yr Urdd i ddathlu Euro 2025 ar drothwy ymgyrch hanesyddol i Gymru.
Fe fydd tîm Rhian Wilkinson yn chwarae yn eu prif gystadleuaeth gyntaf fis nesaf, gan gychwyn eu hymgyrch yn erbyn yr Iseldiroedd.
A dydd Gwener fe fydd yr Urdd yn rhyddhau cân newydd er mwyn dathlu'r garreg filltir honno.
Mae 'Ymlaen' wedi ei chyfansoddi gan Caryl Parry Jones a’i chynhyrchu gan Branwen Munn, ac yn cynnwys cyfraniadau gan y band Eden a’r cantorion Aleighcia Scott a Rose Datta.
Er mwyn ysbrydoli'r garfan draw yn y Swistir fe fydd y gân yn cael ei pherfformio yn ystod Jambori Ewro Menywod Cymru yr Urdd ar fore Mercher 2 Gorffennaf, a fydd yn cael ei gynnal dros Zoom.
Roedd Jambori'r Urdd yn 2022, oedd yn dathlu tîm y dynion yn cyrraedd Cwpan y Byd, wedi denu dros 250,000 o blant at ei gilydd i ganu.
Mae rhyddhau'r gân yn un o sawl prosiect gan yr Urdd i nodi llwyddiant Cymru wrth gyrraedd Euro 2025.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: "Rydym yn edrych ymlaen at wireddu’r prosiectau hyn fydd yn tanio diddordeb ac yn ysbrydoli plant a phobl ifanc Cymru trwy gydol yr ymgyrch.
"Rydym yn rhoi cyfle iddynt fod yn Gymry balch wrth gyd-ganu a chefnogi’r tîm, yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon a chelfyddydau arbennig yma yng Nghymru ac yn y Swistir."