Newyddion S4C

Paul Mullin yn gadael Wrecsam ar fenthyg

Mullin

Mae ymosodwr Wrecsam, Paul Mullin, wedi ymuno â chlwb Wigan Athletic o Adran Un ar fenthyg ar gyfer tymor 2025/26.

Arwyddodd y chwaraewr 30 oed i Wrecsam o Cambridge United yn 2021 a sgoriodd 110 gôl mewn 170 gêm ym mhob cystadleuaeth, gan eu helpu i ennill dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol i'r Bencampwriaeth.

Ar ôl cael llawdriniaeth ar anaf i'w gefn yr haf diwethaf, gwnaeth Mullin 17 ymddangosiad i Wrecsam y tymor diwethaf a dim ond naw gêm yn Adran Un a ddechreuodd, gan sgorio tair gôl yn y gynghrair.

Wrth siarad â gwefan Wigan Athletic dywedodd Mullin fod y bennod nesaf yn ei gyffroi.

"Rwy wedi cyffroi ar gyfer rhan nesaf fy stori. Mae'r cyfarwyddwr wedi amlinellu ei gynllun ar gyfer y tymor, ac rwy'n gobeithio ei wneud yn un llwyddiannus iawn,"

"Rydw i wedi sgorio llawer o goliau dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn fwy na dim, rydw i'n rhoi fy holl egni i'r clwb rydw i'n chwarae iddo, ac rydw i'n mynd i wneud hynny eto gyda Wigan."

Dywedodd rheolwr Wrecsam Phil Parkinson: "Hoffwn ddymuno'r gorau i Paul ar gyfer ei dymor ar fenthyg gyda’r clwb."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.