Newyddion S4C

'Pryder mawr' wedi i gylch cerrig hynafol gael ei ‘fandaleiddio’ yn Sir Benfro

Cerrig Gors Fawr

Mae cylch cerrig 4,000 oed o’r Oes Efydd ym Mynyddoedd y Preseli wedi cael ei dargedu gan "fandaliaid", meddai Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd y Parc fod y digwyddiadau diweddar ar safle Gors Fawr “wedi peri gofid”.

Dywedodd y Parc: “Mae cloddio anghyfreithlon o amgylch gwaelod nifer o gerrig wedi achosi difrod sylweddol, gan alw am waith cadwraeth arbenigol costus."

Ychwanegodd y Parc fod hyn wedi arwain at “fwy o wyliadwriaeth yn un o safleoedd treftadaeth mwyaf eiconig Sir Benfro”.

Dywedodd Archaeolegydd Cymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Tomos Ll. Jones bod Gors Fawr yn Heneb Restredig, sydd wedi’i gwarchod yn gyfreithiol oherwydd ei harwyddocâd cenedlaethol. 

"Mae’r difrod a achoswyd yma yn peri pryder mawr – mae’n peryglu sefydlogrwydd y cerrig eu hunain yn ogystal ag amharchu’r miloedd o flynyddoedd o hanes y maen nhw’n eu cynrychioli," meddai.

"Mae dinistrio neu ddifrodi Heneb Gofrestredig yn drosedd. 

"Mae safleoedd fel hyn wedi bod yma ers amser maith, ymhell cyn dechrau cadw cofnodion ysgrifenedig. Nid rhywbeth dewisol yw eu diogelu – mae’n gyfrifoldeb arnom ni.”

Bydd gwirfoddolwyr o’r cynllun Gwarchod Treftadaeth nawr yn monitro’r safle, ac mae’r Parc wedi rhoi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys am yr hyn ddigwyddodd.

Mae’r Parc yn annog unrhyw un “sy’n dyst i weithgarwch amheus neu droseddau treftadaeth posibl yn safle Gors Fawr, neu mewn safleoedd gwarchodedig eraill, i roi gwybod i’r heddlu ar unwaith”.

Llun: Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.