Newyddion S4C

Datgan 'ton wres' yn swyddogol yng Nghymru

Ton boeth

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan ton wres (heatwave) yn swyddogol mewn rhannau o Gymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod y tymheredd wedi cyrraedd 26.9C yng Nghaerdydd a 30.8C yn Eglwys Wen yn Sir Benfro ddydd Gwener, gan olygu mai dyna oedd diwrnod poethaf y flwyddyn yng Nghymru hyd yn hyn.

Roedd hi ychydig yn oerach dydd Sadwrn gyda'r tymheredd yn cyrraedd uchafbwynt o 26.9C ym Mharc Biwt Caerdydd.

Er mwyn i don o wres poeth (heatwave) gael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd, mae angen cyrraedd tymheredd trothwy am dri diwrnod yn olynol.

Mae'r trothwy hwn yn amrywio o 25C i 28C mewn gwahanol rannau o’r DU.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae'n bosib mai nos Sadwrn fydd "noson drofannol" gyntaf y flwyddyn, sef noson pan nad yw tymereddau dros nos yn gostwng yn is na 20C.

Daw'r don o wres yn sgil ardal o bwysedd uchel sy'n datblygu.

Mae fferyllfeydd wedi cynghori eu cleifion i storio meddyginiaethau'n ddiogel wrth i'r rhybudd iechyd gwres barhau.

Mae pobl yn cael eu cynghori i storio'r rhan fwyaf o feddyginiaethau a gedwir ar dymheredd ystafell mewn lle oer, sych, i ffwrdd o olau haul.

Llun: Gareth Fuller / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.