Rhybudd melyn am fellt a tharanau ar gyfer y gogledd-ddwyrain
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am fellt a tharanau i ogledd-ddwyrain Cymru dros y penwythnos.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 15.00 ddydd Sadwrn nes 04.00 ddydd Sul ac yn berthnasol ar gyfer Conwy, Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod yna siawns y bydd tai a busnesau yn dioddef llifogydd a bod difrod o ganlyniad i law, mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion.
Mae yna bryderon hefyd am drafnidiaeth gyda llifogydd ac amgylchiadau gyrru gwael yn achosi oedi.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd bydd y tywydd yn gwella erbyn bore dydd Sul.
"Er y bydd llawer o ardaloedd yn debygol o aros yn sych, gall stormydd mellt a tharanau gwasgaredig ddatblygu yn ystod prynhawn Sadwrn," meddai llefarydd.
"A bydd yn para trwy'r nos, gan symud tua'r gogledd-ddwyrain cyn clirio yn y pen draw i Fôr y Gogledd erbyn oriau mân ddydd Sul.
"Gallai'r stormydd mellt a tharanau mwyaf dwys arwain at fellt cyson, cenllysg mawr a gwyntoedd cryfion, ynghyd â rhai cawodydd trwm."
Daw'r rhybudd yn dilyn tywydd poeth yng Nghymru dros y dyddiau diwethaf, gyda'r tymheredd yn codi i bron 30°C.