Caerdydd: Oedi ar y trenau yn sgil 'tywydd eithafol' o boeth
Fe all teithwyr yn y brifddinas wynebu oedi ar y trenau yn dilyn problemau ar y rheilffyrdd yn sgil y “tywydd eithafol.”
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y gallai pobl sydd yn teithio rhwng Grangetown a Chaerdydd Canolog wynebu oedi gan fod y tywydd poeth wedi creu problemau ar y trac.
Mae’r tymheredd uchel wedi achosi problemau ger Caerdydd Canolog sydd wedi arwain at llinellau yn cael eu rhwystro.
Dim ond 5 munud o oedi y dylai pobl wynebu yn sgil hynny, medd Trafnidiaeth Cymru.
Dyw’r problemau ddim yn golygu y bydd yn rhaid canslo unrhyw drenau, ychwanegodd.
Mae disgwyl i’r broblem para hyd at 16.30 ddydd Iau.