Dyn yn pledio'n euog ar ôl torri trwyn cogydd mewn bwyty yn Ynys Môn
Mae dyn wnaeth dorri trwyn cogydd mewn bwyty yn Ynys Môn wedi cael dedfryd o naw mis yn y carchar wedi ei ohirio am flwyddyn.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Rafiul Alam, 37, o Benbedw yn gweini mewn bwyty ym Miwmares pan ffraeodd gyda’r cogydd am gamgymeriadau mewn archeb bwyd.
Dywedodd yr erlynydd Alexandra Carrier ei fod wedi bwrw'r cogydd Sumon Miah i’r llawr.
Roedd y ffrae wedi dechrau wedi i Sumon Miah ofyn i Rafiul Alam fod yn fwy gofalus wrth gymryd archebion bwyd, meddai.
Dywedodd yr Ustus Nicola Jones nad oedd Rafiul Alam wedi torri’r gyfraith am bedair blynedd a’i fod yn “unigolyn oedd yn gallu ei adsefydlu ei hun”.
Cyfaddefodd Alam, a gafodd ei arestio yn 2023 ar ôl hedfan i Lundain o wyliau, iddo achosi gwir niwed corfforol.
Dywedodd Richard Edwards oedd yn ei amddiffyn ei fod “wir yn edifarhau am yr hyn ddigwyddodd”.
Bydd rhaid iddo dalu costau ychwanegol o £187.