Siaradwyr ifanc yn trafod heriau creu cynnwys mewn ieithoedd Celtaidd lleiafrifol
Mae siaradwyr ifanc y Gymraeg, Cernyweg, Gaeleg yr Alban a’r Iaith Wyddeleg wedi cwrdd i drafod heriau creu cynnwys ar-lein trwy'r ieithoedd Celtaidd.
Fe ddaeth y gweithwyr at ei gilydd yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd Yr Alban fel rhan o raglen gyfnewid arloesol sy'n dathlu'r dreftadaeth ieithyddol y maen nhw'n ei rhannu.
Yn ystod eu cyfnod yno roedd y criw wedi cyfarfod â chrewyr ffilmiau a cherddorion i ddysgu sut mae'r ieithoedd yn rhan annatod o'u gwaith creadigol modern.
Un dyn ifanc oedd yn rhan o'r daith oedd Ifan Prys sydd yn gweithio i gwmni Rondo.
Dywedodd bod y daith yn gyfle i drafod yr heriau sy'n wynebu crewyr cynnwys ieithoedd lleiafrifol yn y sector creadigol.
"Roedd y daith yn gyfle unigryw i gwrdd â chrewyr cynnwys o wledydd Celtaidd eraill, i rannu syniadau a chryfhau’r rhwydweithiau rhwng ein cymunedau ieithyddol.
“Cawsom gyfle i rwydweithio gyda staff MG ALBA, BBC Alba a chynhyrchwyr lleol, gan drafod ein cyfleoedd, heriau ac uchelgeisiau."
'Heriau sylweddol'
Yn ddiweddar dangosodd adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg fod y defnydd o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc y tu allan i’r ysgol yn “gyfyngedig”, yn enwedig wrth gyfathrebu ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn ôl yr adroddiad roedd “heriau sylweddol” wedi codi wrth geisio annog pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yn ddyddiol
Fe gafodd holiaduron eu llenwi gan dros 1600 o blant a phobl ifanc 11-21 oed ar draws Cymru, ac fe gafodd chwe grŵp ffocws eu cynnal.
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, y nod oedd “ceisio deall mwy am arferion ieithyddol plant a phobl ifanc”.
Canolbwyntiodd yr ymchwil ar blant a phobl ifanc wrth iddynt ymwneud â’u teuluoedd a’u ffrindiau mewn gwahanol weithgareddau y tu allan i’r ysgol, wrth gyfathrebu ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol, ac wrth dderbyn gwasanaethau.
'Dathlu ein hieithoedd'
Fel rhan o'r digwyddiad roedd y bobl ifanc wedi cael profiad o gynhyrchu deunydd amlieithog a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2025 yn Newquay, Cernyw.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford yn dweud bod gweithgareddau fel hyn yn gyfle i ddathlu ieithoedd lleiafrifol.
"Mae'r Rhaglen Gyfnewid Geltaidd yn dathlu ein hieithoedd byw ac yn cefnogi pobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd creadigol, gan ddefnyddio eu hieithoedd brodorol, lle bynnag y maent yn dewis byw a gweithio.
"Rydyn ni'n falch o weithio gyda'n partneriaid ar draws y cenhedloedd i dyfu ein hieithoedd, cryfhau ein cysylltiadau diwylliannol a helpu pobl i ddatblygu cyfleoedd a gyrfaoedd yn eu hieithoedd brodorol."