Newyddion S4C

Pleidleisio o blaid gwelliant AS o Gymru i beidio gwneud erthyliad yn drosedd

AS Gwyr

Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid mesur gan AS o Gymru i beidio gwneud erthyliad yn drosedd yng Nghymru a Lloegr.

Fe gafodd y gwelliannau i'r Bil Trosedd a Phlismona eu pasio yn San Steffan gyda 379 yn pleidleisio o blaid a 137 yn erbyn.

Mae'n golygu y bydd hi'n gyfreithlon i erthylu ar unrhyw adeg o feichiogrwydd petai'r fam yn dewis.

Dyma'r newid mwyaf mewn hawliau atgenhedlu ers bron i 60 mlynedd.

Dywedodd AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi, oedd wedi cyflwyno'r gwelliannau, y byddai'n cael gwared ar "unrhyw fygythiad o ymchwiliad, arest, erlyniad neu garchar" i unrhyw ddynes sy'n gweithredu mewn cysylltiad â'u beichiogrwydd.

Ychwanegodd fod achosion o ferched yn wynebu ymchwiliad gan yr heddlu wedi ei hysgogi hi i geisio sicrhau newid yn y gyfraith.

Ar hyn o bryd mae erthyliad yng Nghymru a Lloegr yn drosedd, ond mae'n gyfreithlon gyda darparwr awdurdodedig am hyd at 24 wythnos ar ôl cenhedlu. Mae'r driniaeth yn cael ei chaniatáu ar ôl yr amser hwn mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn.

Mae hefyd yn gyfreithlon cymryd meddyginiaeth gartref os yw menyw yn llai na 10 wythnos yn feichiog.
 

'Rhaid iddo ddod i ben'

Dywedodd Ms Antoniazzi fod y mesur yn un "cul, wedi'i dargedu" na fyddai'n newid sut mae gwasanaethau erthyliad yn cael eu darparu na'r rheolau o dan Ddeddf Erthyliad 1967.

"Mae'r terfyn o 24 [wythnos] yn parhau. Mae erthyliadau yn dal i fod angen cymeradwyaeth llofnodion dau feddyg, a byddai'n rhaid i fenywod o hyd fodloni'r sail sy'n cael ei nodi yn y ddeddf," meddai.

Dywedodd yr AS fod hynny'n golygu y byddai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol "sy'n gweithredu y tu allan i'r gyfraith a phartneriaid camdriniol sy'n defnyddio trais neu wenwyno i ddod â beichiogrwydd i ben yn dal i gael eu troseddoli, fel y maen nhw nawr".

Ychwanegodd: "Bydd y darn yma o gyfraith ond yn tynnu menywod allan o'r system cyfiawnder troseddol oherwydd eu bod yn agored i niwed ac angen ein help.

"Fel rydw i wedi'i ddweud o'r blaen, a byddaf yn ei ddweud eto, pa fudd cyhoeddus yn union y mae hyn yn ei wasanaethu? 

"Nid cyfiawnder yw hyn, mae'n greulondeb ac mae'n rhaid iddo ddod i ben."

Ni fydd y newid yn dod i rym ar unwaith gan fod y Bil Trosedd a Phlismona yn dal i fynd drwy'r Senedd yn San Steffan.

Fe aeth gwelliant ar wahân, a gyflwynwyd gan yr AS Llafur Stella Creasy, ymhellach gyda mesur i sicrhau hawl person i erthyliad tra'n amddiffyn y rheini sy'n eu gwarchod.

Fodd bynnag, ni phleidleisiwyd ar ei gwelliant oherwydd bod gwelliant Ms Antoniazzi wedi pasio, fel y disgwyl.

Fe wnaeth yr AS Ceidwadol Syr Edward Leigh bleidleisio yn erbyn y ddau welliant, gan eu disgrifio nhw fel rhai "sydd ddim o blaid menywod".

Ar faterion fel erthyliad mae gan ASau bleidleisiau rhydd fel arfer, sy'n golygu eu bod yn cael mynegi barn eu hunain yn hytrach na barn eu plaid.

 

 

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.