Newyddion S4C

Doctor i bledio yn euog am roi cetamin i'r actor Matthew Perry

Matthew Perry

Mae disgwyl i feddyg o Galiffornia sydd wedi ei gyhuddo o roi cetamin i'r actor Matthew Perry yn yr wythnosau cyn iddo farw o or-ddos bledio yn euog meddai'r erlynwyr.

Fe fydd Dr Salvador Plasencia yn pledio yn euog i bedwar cyhuddiad o ddosbarthu'r cyffur cetamin. Mae'n wynebu uchafswm o 40 mlynedd dan glo.

Cafodd corff Matthew Perry oedd yn 54 oed ei ddarganfod mewn twba poeth ym mis Hydref 2023.

Fe ddywedodd arbenigwr meddygol ar y pryd fod cetamin wedi ei ddarganfod yn ei waed.

Roedd yr actor, sydd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y gyfres boblogaidd Friends, wedi bod yn dioddef gydag iselder.

Roedd wedi bod yn defnyddio'r cyffur yn gyfreithlon trwy ei feddyg arferol er mwyn trin ei salwch. Ond roedd wedi bod yn gofyn am fwy o cetamin nag oedd ei ddoctor yn fodlon ei roi iddo.

Mae'r meddyg yn un o bump o bobl sydd wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth.

Yn ôl yr erlyniad roedd yna rwydwaith dirgel o ddelwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol oedd yn rhoi cetamin i Perry. 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.