Mam i bedwar a dyn 30 oed wedi marw wrth neidio o awyren
Mae mam i bedwar o blant wedi marw wrth neidio o awyren.
Fe gafodd Belinda Taylor, 48 oed o Totnes ei lladd yn syth wrth iddi blymio lawr o'r awyr yn Nyfnaint ddydd Gwener.
Fe fuodd y dyn a neidiodd gyda hi, Adam Harrison, oedd yn 30 oed ac yn dod o Bournemouth, hefyd farw.
Mae cariad Belinda, Scott Armstrong wedi dweud wrth wefan The Mirror iddo brynu'r neidiad o'r awyren fel anrheg iddi.
"Belinda oedd fy myd. Roedd hi mor garedig a hael ac fe fyddai hi yn gwneud unrhywbeth i unrhyw un," meddai.
"Y bwriad oedd gwneud naid 7,000 troedfedd ond ar y funud olaf fe ddywedodd hi ei bod eisiau gwneud yr un 15,000 troedfedd felly fe wnes i dalu'r arian ychwanegol."
Mae'n dweud iddo sylweddoli yn gyflym bod rhywbeth o'i le ar ôl iddyn nhw neidio ac iddo ruthro draw a darganfod y ddau wedi marw.
"Roedd yn olygfa erchyll. Dwi'n ei cholli hi'n ofnadwy. Dwi ar golli hebddi."
Roedd gan Belinda dri o feibion a merch. Mae un o'i meibion, Connor, hefyd wedi rhoi teyrnged iddi ac wedi diolch i'r heddlu ac ymchwilwyr am eu cefnogaeth.
Mae'r awdurdodau yn ymchwilio i'r digwyddiad.