Penodi'r ddynes gyntaf i arwain asiantaeth gudd MI6
Mae dynes wedi cael ei phenodi i arwain asiantaeth gudd MI6 am y tro cyntaf.
Blaise Metreweli fydd y ddynes gyntaf i gael ei phenodi'n bennaeth a hynny yn hanes 116 mlynedd yr asiantaeth.
Fe fydd Ms Metreweli, sydd ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr technoleg y mudiad, yn cymryd drosodd pan fydd Syr Richard Moore yn camu lawr yn yr hydref.
Fe ymunodd ag MI6 am y tro cyntaf yn 1999 ac mae wedi gweithio yn y Dwyrain Canol ac Ewrop.
Bydd ganddi gyfrifoldeb dros sut mae'r mudiad yn gweithio, a'r pennaeth yw'r unig aelod o MI6 sydd yn cael ei enwi'n gyhoeddus.
Wrth gael ei phenodi i'r swydd, dywedodd Ms Metreweli ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda gwledydd eraill ar draws y byd.
"Rydw i'n falch ac mae yn anrhydedd cael fy ngofyn i arwain fy ngwasanaeth," meddai.
“Mae MI6 yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw pobl Prydain yn ddiogel a hyrwyddo buddiannau’r DU dramor.
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r gwaith hwnnw ochr yn ochr â swyddogion ac asiantau dewr MI6 a’n partneriaid rhyngwladol niferus.”
Gweinidog Tramor y DU, David Lammy sydd yn gyfrifol am benodi pennaeth MI6.
Dywedodd bod "profiad Ms Metreweli ar draws ein cymuned diogelwch cenedlaethol" yn ei gwneud y "person delfrydol i arwain MI6."