Jonny Clayton: Cymru 'yma i ennill' Cwpan Dartiau'r Byd
Mae Jonny Clayton wedi dweud ei fod ef a Gerwyn Price "yma i ennill" wrth iddyn nhw gychwyn ar eu hymgyrch yng Nghwpan Dartiau'r Byd.
Bydd y ddau Gymro yn gobeithio ennill y gystadleuaeth am y drydedd tro wedi iddyn nhw gipio'r tlws yn 2020 a 2023.
Fe fydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yn erbyn Y Philipinau yn yr ail rownd am 19.00 ddydd Sadwrn.
Mae'r pedwar tîm gorau ar sail rhestr detholion y PDC, sef Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cymhwyso ar gyfer yr ail rownd yn awtomatig yn lle gorfod chwarae gemau grŵp.
Yn wahanol i gystadlaethau arferol, mae gwledydd yn chwarae pob gêm mewn parau yng Nghwpan y Byd.
'Barod amdani'
Pencampwr y byd presennol Luke Littler a chyn-bencampwr y byd Luke Humphries o Loegr yw'r ffefrynnau eleni, ond mae Jonny Clayton yn ffyddiog y gall ef a Price eu curo pe bai'r ddwy wlad yn cwrdd yn y gystadleuaeth.
“Ni yma i geisio ennill y tlws,” meddai.
“Rydyn ni wedi cyflawni hynny dwywaith yn y gorffennol ac rydym yn credu bod ni’n gallu gwneud hynny eto.
“Does dim ots gen i fod Luke (Humphries) a Luke (Littler) yn rif un a dau yn y byd. Bydd y ddau foi o Gymru yn eu hatal.
“Os ydych chi eisiau ennill tlysau mae rhaid i chi ennill yn erbyn y chwaraewyr mawr, felly rydyn ni'n barod amdani.
“Mae cynrychioli eich gwlad - dim ots ym mha gamp, mae’n deimlad ffantastig. mae wir yn sbesial.”
Colli 8-6 yn rownd yr wyth olaf oedd hanes Cymru y llynedd, a hynny heb Gerwyn Price a oedd wedi ei anafu.
Roedd Jim Williams wedi cymryd ei le yn y gystadleuaeth, ond nid oedd ef a Clayton yn gallu cipio'r tlws.