Llanelli: Apelio am wybodaeth wedi 'gweithgaredd rhywiol' gyhoeddus
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn a dynes cymryd rhan mewn "gweithgaredd rhywiol" yn gyhoeddus yn Llanelli.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i adroddiad o anweddusrwydd cyhoeddus a ddigwyddodd yn y dref am 16:45 ar ddydd Sadwrn 10 Mai.
Roedd dyn a menyw yn cymryd rhan mewn "gweithgaredd rhywiol" ar y glaswellt yng Nghlos Granby.
Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ond mae'r llu yn apelio am wybodaeth am y fenyw.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd yn dyst neu sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy wefan y llu neu ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 20250512-221.