Newyddion S4C

Bangor: Arddangosfa i ddathlu dinas hynaf Cymru

Hen fap o Fangor

Fe fydd arddangosfa o lawysgrifau prin a thrysorau eraill yn cael ei chynnal i nodi 1500 mlynedd ers sefydlu Bangor.

Fe fydd yr arddangosfa ym Mhrifysgol Bangor yn nodi 1500 mlynedd ers i Deiniol Sant sefydlu ei fynachdy yn y ddinas yn 525 OC. 

Daw enw'r ddinas o  'bangor’, sef enw’r ffens a adeiladodd Deiniol i amgáu ei gymuned weddi. 

Mae’r gadeirlan yn parhau i wasanaethu'r ddinas a dyfodd o amgylch yr anheddiad gwreiddiol hwn.

Yn yr arddangosfa fe fydd “eitemau prin ac arwyddocaol o gasgliad archifol y Brifysgol ochr yn ochr â deunyddiau gwerthfawr o Lyfrgell y Gadeirlan”. 

Mae'r casgliad wedi bod yng ngofal Prifysgol Bangor ers sawl degawd. 

Fe fydd ymwelwyr yn gweld llawysgrifau goliwiedig, llyfrau prin wedi eu hargraffu, a dogfennau archifol sy'n adrodd hanes y ganolfan eglwysig hynafol hon yng Nghymru.

Mae'r arddangosfa yn cael ei chynnal tan 19 Rhagfyr 2025 ar-lein ac ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor. 

Dywedodd Rheolwr Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, Elen Wyn: "Mae'r arddangosfa hon yn cynnig cyfle unigryw i archwilio 1500 mlynedd barhaus o dreftadaeth grefyddol a diwylliannol."

“Mae'r deunyddiau yr ydyn ni'n eu harddangos yn amlygu rhan bwysig Cadeirlan Bangor yn hanes Cymru a stori ehangach Cristnogaeth ym Mhrydain.

"Mae'n anrhydedd cael bod yn rhan o ddathliadau Cadeirlan a Dinas Bangor ac mae’n gyfle gwych i arddangos yr eitemau prin ac arwyddocaol yn Llyfrgell y Gadeirlan."

Dywedodd Esgob Ynys Enlli ac Esgob Cynorthwyol Esgobaeth Bangor, David Morris: "Ers pymtheg canrif, mae Cadeirlan Bangor wedi bod yn symbol o ffydd a chymuned yng Nghymru.

“Mae'r arddangosfa hon yn cyfleu hanes diddorol ein cadeirlan a'i rôl hanfodol ym mywyd ysbrydol Cymru ar hyd yr oesoedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.