Newyddion S4C

Rhybudd melyn am fellt a tharanau ar benwythnos Tafwyl

Rhybudd melyn Tafwyl

Bydd rhybudd tywydd melyn am fellt a tharanau mewn grym ar gyfer Gymru gyfan dros y penwythnos.

Mae'n dod i rym ar benwythnos prysur i wyliau yng Nghymru gan gynnwys Tafwyl yn y brifddinas.

Mae’r diweddariad yn golygu bod rhybudd melyn mewn grym mewn rhannau o Gymru ddydd Gwener, a Chymru gyfan ddydd Sadwrn.

Daw’r rhybuddion am dywydd garw ar benwythnos lle bydd gwyliau eraill gan gynnwys gŵyl Gottwood ar Ynys Môn, a Sioe Aberystwyth yng Ngheredigion hefyd yn cael eu cynnal.

Fe fydd y rhybudd tywydd ddydd Sadwrn yn ymestyn o hanner nos nes 18:00. Fe allai 60-80mm o law syrthio mewn rhai mannau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: “Bydd ardaloedd o law trwm a rhai stormydd mellt a tharanau yn symud tua'r gogledd ar draws ardaloedd o Loegr a Chymru yn gynnar ddydd Sadwrn.

Ar ôl i'r glaw symud i'r gogledd, mae'n debygol y daw cawodydd trwm a stormydd mellt a tharanau pellach yn ei sgil.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymu wedi cyhoeddi rhybud llifogydd 'byddwch yn barod' ar gyfer afonydd Nant-y-fendrod a Nant Brân yn ardal Abertawe. 

Dydd Gwener

Bydd y rhybudd tywydd ddydd Gwener rhwng 18:00 a hanner nos ac yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Benfro
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Torfaen
  • Wrecsam

Dydd Sadwrn

Bydd y rhybudd tywydd ddydd Sadwrn rhwng hanner nos a 18:00 ac yn effeithio ar Gymru gyfan:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Benfro
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir y Fflint
  • Torfaen
  • Wrecsam
  • Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.