Newyddion S4C

Y canwr a cherddor, Brain Wilson, wedi marw’n 82 oed

Brian Wilson

Mae'r canwr a cherddor Brian Wilson, un o aelodau The Beach Boys, wedi marw yn 82 oed, meddai ei deulu.

Wilson oedd yr hynaf o’r tri brawd cerddorol a ffurfiodd y band roc Americanaidd, The Beach Boys, ochr yn ochr â’u cefnder Mike Love a’u ffrind ysgol Al Jardine.

Ymhlith caneuon llwyddiannus y band roedd California Girls, Surfin’ USA a Good Vibrations, a gyrhaeddodd frig siart senglau'r DU.

“Rydym wedi torri ein calonnau wrth gyhoeddi bod ein tad annwyl Brian Wilson wedi marw,” meddai ei deulu mewn datganiad ar ei wefan.

“Does gennym ddim geiriau ar hyn o bryd”.

Mae’r teulu’n gofyn i’r cyhoedd barchu eu preifatrwydd wrth iddyn nhw alaru.

“Rydym yn sylweddoli ein bod yn rhannu ein galar gyda'r byd,” meddai’r datganiad.

Gorffennodd y datganiad gyda “Love & Mercy”, sy’n gyfeiriad at ffilm am Wilson gyda John Cusack yn actio ynddi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.