Gallai achubwr bywyd fod wedi atal bachgen rhag boddi yn y môr medd crwner
Gallai cael achubwr bywyd ar ddyletswydd fod wedi bod yn ddigon i atal bachgen yn ei arddegau rhag boddi, meddai crwner.
Bu farw David Ejimofor, 15, ar draeth Aberafan yng Nghastell-nedd Port Talbot ar 19 Mehefin 2023.
Roedd wedi neidio i'r môr wrth ddathlu diwedd ei arholiadau gyda'i ffrindiau.
Y gred yw bod hyn yn draddodiad yn yr ardal ar ddiwedd blwyddyn ysgol.
Dywedodd crwner cynorthwyol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fod David wedi boddi ar ôl neidio o bier.
Yn ôl Edward Ramsay nid oedd achubwr bywyd wedi'i leoli o amgylch y pier i atal pobl rhag neidio, fel yr oedd wedi bod yn y gorffennol.
Fe aeth ymlaen i ddweud nad oedd wedi derbyn unrhyw esboniad pam y cafodd y mesur yma ei atal cyn y digwyddiad.
Rhybuddiodd y gallai rhagor o farwolaethau ddigwydd yn y dyfodol os nad yw mesurau diogelwch yn cael eu gwella.
"Ni ddylai'r pier fod wedi cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw," meddai Mr Ramsay.
"Ond roedd pobl yn ymwybodol ei fod wedi cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw gan blant a phobl ifanc lleol, yn enwedig ym misoedd y gwanwyn a'r haf pan oedd y tywydd yn dda a'r llanw'n uchel.
"Yn y gorffennol, roedd achubwyr bywyd wedi cael eu lleoli wrth neu o amgylch y pier, ar yr adegau hyn, i atal y gweithgaredd hwn.
"Nid oedd achubwr bywyd yn bresennol ar yr adeg y neidiodd David.
"Pe bai un wedi bod yno, mae’n bosibl na fyddai David wedi neidio ac felly na fyddai wedi boddi."
Ychwanegodd: "Ni chefais, mewn tystiolaeth, esboniad boddhaol na chryf ynghylch pam y cafodd y mesur hwnnw ei ddileu cyn marwolaeth David, na pham mae’r mesur hwnnw’n parhau i fod ar goll heddiw."
'Bachgen bywiog'
Ar ôl ei farwolaeth, sefydlodd teulu David ddeiseb yn galw ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot i wella'r diogelwch ar y traeth.
Ond dywedodd y crwner nad oedd "unrhyw dystiolaeth bod mesurau ataliol eraill a gafodd eu rhoi ar waith ers marwolaeth David [gan gynnwys arwyddion cliriach a rhwystr uchder cyfyngedig] yn gweithio'n effeithiol fel arall i leihau'r risg."
Mewn teyrnged, dywedodd teulu David ei fod yn "fachgen ifanc bywiog" ac yn "fab, brawd, cefnder, nai a ffrind annwyl".
"Roedd bob amser yn ymdrechu i fod y fersiwn orau ohono’i hun... Roedd ganddo wên heintus, natur ofalgar ac roedd yn llawn brwdfrydedd," meddai ei deulu.
"Bydd y cof amdano'n parhau am byth yng nghalonnau'r rhai oedd yn ei adnabod a'i garu."
Mae adroddiad y crwner wedi'i anfon at Gyngor Castell-nedd Port Talbot, Porthladdoedd Prydeinig Cysylltiedig a'r Sefydliad Brenhinol y Badau Achub.
Mae ganddyn nhw 56 diwrnod i ymateb i'r adroddiad.