Person wedi cael ei anafu ar y cledrau yng ngorsaf Caerdydd Canolog
Mae person wedi cael ei anafu ar y cledrau yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod swyddogion wedi cael eu galw wedi adroddiadau o berson wedi ei anafu ar y cledrau am 12:16.
Roedd swyddogion, ynghyd â'r gwasanaeth tân ac ambiwlans yn bresennol.
Ychwanegodd y datganiad fod y person wedi cael ei gludo i'r ysbyty ble mae'n derbyn triniaeth am anafiadau a all newid bywyd.
Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus ar hyn o bryd.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd llai o drenau yn gallu pasio drwy'r orsaf yn sgil y digwyddiad.
Ychwanegodd y datganiad fod disgwyl i oedi a threnau gael eu canslo ar gyfer nifer o wasanaethau.
Maent yn cynghori teithwyr i wirio am y wybodaeth deithio ddiweddaraf cyn teithio.