Angen '10 gwaith' gymaint o arian ar reilffyrdd Cymru - arbenigwr
Dyw’r buddsoddiad o £445m ar gyfer prosiectau rheilffyrdd newydd yng Nghymru a fydd yn cael ei gyhoeddi gan y Canghellor ddydd Mercher “ddim yn ddigon i Gymru cyfan” yn ôl un arbenigwr yn y maes.
Mae’r Athro Stuart Cole o Brifysgol De Cymru yn dweud bod angen llawer yn fwy o arian gan Lywodraeth y DU mewn gwirionedd.
“Mae hwn ddim yn dod unrhyw le tuag at beth ni eisiau," meddai wrth siarad ar Radio Cymru. "Ni’n siarad ambiti 10 gwaith hwnna."
Mae disgwyl i’r Canghellor, Rachel Reeves gyhoeddi'r arian ar gyfer pum gorsaf newydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy yn ddiweddarach.
Bydd hefyd yn dweud y bydd y rheilffordd yng ngogledd Cymru yn cael ei uwchraddio.
“Mae ddim yn digon i Gymru cyfan," meddai Stuart Cole.
"Mae llefydd sydd ddim yn cael yr arian wedi bod yn edrych am yr arian ers blynydde… Lein y gogledd, rwy’n cofio gweithio ar hwnna yn y 70au pryd o’n i yn economegydd gyda Cyngor Sir Caer.
"Nawr ma hwnna 50 mlynedd yn ôl. Ni ddim wedi symud ymlaen gyda’r arian dros Gymru.”
'Dyledus'
Dyw buddsoddi mewn rheilffyrdd ddim yn faes sydd wedi ei ddatganoli i Gymru. Mae hynny yn golygu bod y buddsoddiad yn dod o gronfa’r Adran Drafnidiaeth.
Mae’r arian yn dod wedi blynyddoedd o gwynion am danfuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.
Mae yna ffrae wedi bod ynghylch y diffyg arian sy'n dod i mewn i Gymru o ganlyniad i brosiectau rheilffordd yn Lloegr.
Mae’r rheini wedi cynnwys HS2, sy'n costio dros £60bn, a'r llinell rhwng Dwyrain a Gorllewin Caergrawnt a Rhydychen sydd i gostio £6bn - y ddau wedi eu dynodi yn brosiectau 'Cymru a Lloegr'.
Mae’r Trysorlys yn dweud bod y cyhoeddiad yn "garreg filltir ar daith llywodraeth y DU i fynd i'r afael â degawdau o danfuddsoddi mewn seilwaith hanfodol sydd wedi llesteirio economi Cymru".
Ond mae Plaid Cymru wedi dweud nad yw’r arian newydd yn “cyffwrdd ochrau” y biliau oedd yn “ddyledus” i Gymru.