Newyddion S4C

Wynne Evans yn cyhoeddi ei fod wedi dyweddïo

wynne evans.jpg

Mae Wynne Evans wedi cyhoeddi ei fod ef a'i bartner Liz Brookes wedi dyweddïo.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Wynne Evans: "Newyddion mawr, dwi wedi dyweddïo. 

"Y penwythnos yma yn Moroco...fe wnes i ddyweddïo i Liz, ac 'ie' oedd yr ateb."

Daw'r newyddion wedi i'r BBC gadarnhau na fyddan nhw yn adnewyddu cytundeb Mr Evans. 

Fe wnaeth Mr Evans ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn ystod lansiad taith Strictly Come Dancing.

Roedd y canwr opera o Gaerfyrddin wedi bod ar daith gyda’r sioe fyw ar ôl cystadlu ar y rhaglen ar BBC One gyda Katya Jones.

Cafodd fideo ei ffilmio yn ystod lansiad y daith fyw ar 16 Ionawr lle'r oedd modd clywed Mr Evans yn gwneud sylw amhriodol.

Mae nawr ar fin cychwyn rhaglen radio ei hun fydd yn cael ei darlledu yn ddyddiol yn ystod yr wythnos. 

Llun: Wynne Evans / Instagram

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.