Y Canghellor: £445m ar gyfer rheilffyrdd Cymru dros gyfnod o 10 mlynedd
Mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi cyhoeddi £445m ar gyfer prosiectau rheilffordd newydd yng Nghymru dros gyfnod o 10 mlynedd ddydd Mercher.
Daw’r cynlluniau ar gyfer pum gorsaf newydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy, yn ogystal ag uwchraddio rheilffordd yng ngogledd Cymru fel rhan o adolygiad gwariant cynhwysfawr gan y Trysorlys.
Mae gwleidyddion yr wrthblaid wedi beirniadu’r amserlen 10 mlynedd ar gyfer y cyllid, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud ei bod yn dangos “dirmyg” Llafur tuag at Gymru.
Fe wnaeth Rachel Reeves hefyd gyhoeddi £15.6bn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth gyhoeddus yn ninasoedd Lloegr.
Bwriad yr adolygiad ydi cyhoeddi faint o arian fydd pob adran o Lywodraeth y DU yn ei gael ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Gad nad yw buddsoddi mewn rheilffyrdd yn faes sydd wedi ei ddatganoli i Gymru, mae'n golygu bod y buddsoddiad yn dod o gronfa’r Adran Drafnidiaeth.
Dywedodd y Trysorlys fod y cyhoeddiad yn "garreg filltir ar daith llywodraeth y DU i fynd i'r afael â degawdau o danfuddsoddi mewn seilwaith hanfodol sydd wedi llesteirio economi Cymru".
Daw'r arian newydd wedi blynyddoedd o gwynion am danfuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, gan gynnwys ffrae ynghylch y diffyg arian sy'n dod i mewn i Gymru o ganlyniad i brosiectau rheilffordd yn Lloegr.
Mae’r rheini wedi cynnwys HS2, sy'n costio dros £60bn, a'r llinell rhwng Dwyrain a Gorllewin Caergrawnt a Rhydychen sydd i gostio £6bn - y ddau wedi eu dynodi yn brosiectau 'Cymru a Lloegr'.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad disgwyliedig ddydd Mercher dywedodd Plaid Cymru nad oedd yr arian yn “cyffwrdd ochrau” y biliau oedd yn “ddyledus” i Gymru.
"Mae pobl Cymru wedi gweld yr anghyfiawnder hwn am beth ydi o - Cymru’n cael ei danariannu drosodd a throsodd gan lywodraethau San Steffan yn olynol. Fydd y cyhoeddiad hwn ddim yn newid hynny,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Heledd Fychan.
"Yn wahanol i’r blaid Lafur sy’n fodlon setlo am lai er mwyn cadw’n driw i Starmer, bydd Plaid Cymru yn parhau i fynnu bod Cymru yn derbyn pob ceiniog sy’n ddyledus i ni, ac am bwerau llawn dros ein seilwaith rheilffyrdd."
Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan, David Chadwick: “Mae dirmyg Llafur at Gymru yn mynd yn waeth ac yn waeth.
“Mae’r penderfyniad i ledaenu’r swm bach hwn o gyllid rheilffyrdd dros 10 mlynedd yn amddifadu Cymru o’r hyn sy’n ddyledus iddi am brosiectau’r gorffennol.
"Mae hefyd yn gwarantu y byddwn yn parhau i fod ar ei hôl hi o ran gwariant ar isadeiledd, wrth i brosiectau trafnidiaeth mawr yn Lloegr gael y golau gwyrdd."
'Tanariannu'
Wrth siarad yng nghyfarfod llawn Senedd Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ei bod yn "obeithiol" am fwy o arian i reilffyrdd Cymru yn yr adolygiad gwariant.
"Mae'n wirioneddol bwysig i ni gydnabod bod Llywodraeth y DU wedi nodi'r ffaith bod tanariannu wedi bod pan mae'n dod i'r rheilffyrdd," meddai.
"Bydd yn rhaid i ni weld a ydyn nhw'n llwyddo i wneud rhywbeth yn ei gylch fory. Dydyn ni ddim yn gwybod, dydw i ddim yn gwybod.
"Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod cyfle yma i gywiro dros ddegawd o gamymddwyn.
"Rwy'n gobeithio y bydd y llywodraeth yn darparu'r hyn yr ydyn ni'n ei obeithio yn yr adolygiad gwariant nesaf."
Wrth ymateb i sylwadau Ms Morgan, fe wnaeth Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth gyhuddo'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan o "fradychu" Cymru.
Roedd hynny yn dilyn ffrae dros ddynodi rheilffordd newydd £6.6 biliwn rhwng Caergrawnt a Rhydychen yn brosiect "Cymru a Lloegr".
"Rydym wedi canfod, yn union fel Crossrail, a llinell Elizabeth yn Llundain, roedd y llinell rhwng Rhydychen i Gaergrawnt, wedi'i ystyried fel cynllun 'Lloegr yn unig' gan y Trysorlys am bedair blynedd," meddai.
"Roedden ni am dderbyn ein cyfran ni nes i Lafur weithredu i symud y pyst.
"Aeth Llafur allan o'i ffordd i sicrhau na fyddai Cymru'n cael yr arian pan ddechreuodd y gwariant mawr o ddifrif. Llafur sydd wedi creu'r sgandal HS2 newydd."
Wrth ymateb, dywedodd Ms Morgan: "Rydw i wedi bod yn glir ac yn gyson o ran cyllid rheilffyrdd nad ydym wedi bod yn cael ein cyfran deg o gyllid oherwydd y sefyllfa mae'r Torïaid wedi ein gadael ni ynddi ers dros ddegawd.
"Y gwahaniaeth rhwng y Torïaid a Llywodraeth Lafur y DU yw eu bod nhw wedi cydnabod yr anghyfiawnder hwnnw.
"Nid yw'r adolygiad gwariant wedi'i gyhoeddi eto, rydym yn disgwyl rhywbeth cadarnhaol.
"Ond mae'n wirioneddol bwysig ein bod ni'n parhau i wneud yr achos dros gael ein cyfran deg o gyllid."