Newyddion S4C

Teulu cystadleuydd Race Across the World wedi eu 'llorio' gan negeseuon o gefnogaeth

Sam Gardiner

Mae teulu cyn cystadleuydd rhaglen Race Across the World wedi diolch i bobl am gyfrannu at dudalen JustGiving sydd wedi codi dros £10,000.

Cafodd Sam Gardiner oedd yn 24 oed ei ladd mewn damwain car yn Gatley, ger Cheadle yng ngogledd orllewin Lloegr.

Wedi ei farwolaeth fe benderfynodd ei deulu ddechrau ymgyrch codi arian ar gyfer Syndrom Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD).

Mae’n gyflwr sydd gan berson ar ôl dod i gysylltiad ag alcohol wrth ddatblygu fel ffetws yn y groth.

Roedd yn gyflwr oedd gan Sam Gardiner.

Dywedodd ei fam ei bod hi wedi ei "llorio" gyda'r "degau o filoedd o negeseuon o gariad a chefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn sylwadau straeon yn y wasg". 

"Dwi hefyd fy nghyffwrdd yn arbennig gyda'r holl negeseuon fod Sam wedi bod yn ysbrydoliaeth i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gyda FASD.

"Fe wnaethon ni fabwysiadau Sam ac fe gafodd ddiagnosis o FASD. Fe fydd gwylwyr cyfres dau yn cofio roedd hyn yn sialens enfawr i Sam ac i ni fel ei rhieni.

"Fe wnaeth National FASD ein helpu ni ar y siwrnai honno. Os oes yna unrhyw dda yn dod o'r drasiedi yma, yna fe fydd yna well dealltwriaeth o FASD."

Dywedodd tad Sam Gardiner, Andrew fod ffrindiau wedi gofyn sut y gallan nhw helpu ar ôl ei farwolaeth ym mis Mai. 

Fe benderfynodd sefydlu'r dudalen gan feddwl na fyddai nifer yn cyfrannu meddai.

"Fe wnes i osod y targed o £500 gan feddwl y byddai rhai ffrindiau yn ddigon hael i roi cyfraniad. Hyd yn hyn mae'r dudalen wedi codi 20 gwaith hynny. Mae'n ddiymhongar i weld teulu Race Across the World yn cefnogi'r achos teilwng iawn yma." 

Mae National Organisation for FASD yn dweud ar ei gwefan eu bod yn "cefnogi pobl sydd gyda Fetal Alcohol Spectrum Disorder, eu teuluoedd a'u cymunedau, yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth ac yn hybu polisïau ac ymarferion priodol".

Maent yn disgrifio FASD fel cyflwr sydd yn digwydd ar ôl i berson ddod i gysylltiad ag alcohol sydd yn effeithio'r ymennydd a'r corff sydd wrthi yn datblygu.

"Mae FASD yn sbectrwm. Mae bob un person sydd gyda FASD yn cael ei heffeithio yn wahanol," meddai'r mudiad. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.