Newyddion S4C

Elfyn Evans yn gorffen Rali Sardinia yn y pedwerydd safle

Elfyn Evans - Sardinia

Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen rali Sardinia yn y pedwerydd safle.

Roedd Evans dros bum munud tu ôl i Sébastien Ogier o Ffrainc wnaeth ennill y rali ar ddiwedd y pedwar cymal olaf ddydd Sul.

Mae’r canlyniad yn golygu ei fod yn dal ar frig Pencampwriaeth y Byd.

Wrth gael ei holi ar raglen Ralio ar S4C, dywedodd Elfyn Evans ei fod yn ddigon hapus ar y cyfan: "Wrth gwrs, dim y cyflymdra 'swn i rili di licio, ond wrth gwrs oedd diwedd y rali yma yn bwysig

"Allai fod yn waeth, ond wrth gwrs, 'den ni o hyd isio gwell."      

Dyma’r chweched rali i Evans yn y bencampwriaeth eleni.

Fe ddaeth yn ail yn Rali Monaco, ennill yn Sweden a Kenya, trydydd ar yr Ynysoedd Dedwydd a chweched ym Mhortiwgal.

Fe orffennodd Evans yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd ar ôl iddo ennill rali ola’r tymor yn Japan ym mis Tachwedd.

Llun: X/Elfyn Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.