Newyddion S4C

Rod Stewart yn canslo cyngherddau oherwydd ffliw

07/06/2025
Rod Stewart

Mae Syr Rod Stewart wedi canslo nifer o'i gyngherddau yn America wrth iddo geisio gwella o'r ffliw, cyn ei berfformiad yng ngŵyl Glastonbury ddiwedd y mis. 

Mae'r canwr 80 oed i fod i berfformio yn yr ŵyl yng Ngwlad yr Haf, ddydd Sul 29 Mehefin.

Mae e wedi cyhoeddi ei fod yn siomedig tu hwnt bod angen iddo ganslo neu aildrefnu ei sioeau yn America, a oedd i fod i'w cynnal yn yr wyth niwnod nesaf. 

“Mae'n rhaid i fi ganslo neu aildrefnu fy chwe chyngerdd nesaf ym Mehefin, wrth i fi barhau i wella o'r ffliw,” meddai.

“Mae'n wir ddrwg gen i, fy ffrindiau. 

“'Dw i'n ymddiheuro yn ddiffuant am yr anghyfleustra. Byddaf nôl ar lwyfan, ac fe'ch gwelaf yn fuan,” ychwanegodd. 

Mae e wedi canslo pedair sioe yn Las Vegas a Stateline yn Nevada, yn ogystal â dwy a fydd yn cael eu haildrefnu yn nhalaith California.

Cyhoeddodd Syr Rod Stewart yn ddiweddar y bydd yn perfformio eto gyda'i gyn gyd-chwaraewr Ronnie Wood yn ei sioe yn Glastonbury ar y Llwyfan Pyramid.

Yn 2024, addawodd na fyddai'n ymddeol, ond cadarnhaodd y byddai ei sioeau mawr byd-eang yn dod i ben wedi ei daith o amgylch Ewrop a Gogledd America yn 2025. 

Ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd, mae Da Ya Think I’m Sexy?, Every Beat Of My Heart, a Maggie May.

Fis diwethaf, derbyniodd wobr cyfraniad oes yng ngwobrau'r American Music Awards. 

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.