Cymru yn anelu am fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Liechtenstein
Ar ôl dechrau calonogol i'r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2026, fe fydd Cymru yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Liechtenstein yn eu gêm ragbrofol nos Wener.
Bydd tîm Craig Bellamy yn wynebu Liechtenstein, sydd yn safle 205 yn rhestr detholion y byd, yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener cyn herio Gwlad Belg oddi cartref ym Mrwsel nos Lun.
Gyda phedwar pwynt o'u dwy gêm gyntaf, bydd Cymru yn gobeithio parhau yn ddi-guro o dan Bellamy yn y ddwy gêm nesaf.
Llwyddodd Cymru i sicrhau dyrchafiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd o dan Bellamy, gyda Chymru yn ennill tair a chael tair gêm gyfartal yn eu gemau yng Nghynghrair B.
Fe ddechreuodd y tîm eu hymgyrch yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ym mis Mawrth gyda buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan a gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Macedonia.
Bydd Cymru yn dechrau fel ffefrynnau amlwg i guro Liechtenstein, ond mae disgwyl gêm llawer anoddach yn erbyn Gwlad Belg yr wythnos nesaf.
Dim ond enillwyr y grŵp fydd yn cymhwyso yn awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd, tra y bydd y pedwar safle sy'n weddill yn y rowndiau terfynol yn cael eu penderfynu gan gemau ail-gyfle.
Mae Cymru yn ail ar hyn o bryd yn y grŵp, y tu ôl i Ogledd Macedonia ar wahaniaeth goliau yn unig, ond nid yw Gwlad Belg wedi chwarae gêm yn y grŵp eto.
Mae Ethan Ampadu a Harry Wilson yn dychwelyd i'r garfan, wedi iddynt golli y gemau agoriadol yn yr ymgyrch ym mis Mawrth yn sgil anaf.
Mae Bellamy hefyd wedi cynnwys amddiffynnwr Caerdydd, Roman Kpakio, am y tro cyntaf.
Mae nifer o'r chwaraewyr sydd wedi eu henwi yn y garfan wedi profi diwedd llwyddiannus i'r tymor gyda'u clybiau.
Fe enillodd Ben Davies a Brennan Johson Gynghrair Europa gyda Tottenham Hotspur, ac mae Connor Roberts o Burnley, Chris Mepham o Sunderland, a Karl Darlow, Joe Rodon, Ethan Ampadu a Daniel James o Leeds United wedi sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.