Trên oedd ar ei ffordd i Gaerdydd yn 'teithio ar 80mya' wrth daro tractor
Roedd trên oedd ar ei ffordd i Gaerdydd yn teithio ar 80mya wrth iddo daro tractor yn Sir Henffordd, Lloegr, yn ôl ymchwiliadau cychwynnol.
O'r 66 teithiwr ac wyth aelod o staff oedd yn teithio ar y trên Trafnidiaeth Cymru o Fanceinion i Gaerdydd, fe gafodd chwech eu trin am anafiadau bychain yn ôl Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB).
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar y trac yn Fferm Nordan, Llanllieni ychydig ar ôl 10.45 ar 22 Mai.
Mae'r groesfan yn un lle mae angen i ddefnyddwyr ffonio i gael caniatâd cyn agor y giatiau a chroesi'r rheilffordd.
Dywedodd ymchwilwyr bod gyrrwr y tractor wedi ffonio swyddog cyn defnyddio'r groesfan. Ni chafodd ei anafu yn y gwrthdrawiad.
Bydd yr RAIB yn edrych ar weithredoedd y bobl oedd yn rhan o'r digwyddiad ac unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn y gorffennol fel rhan o'r ymchwiliad.
Bydd y canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach.
Fe gafodd gwasanaethau ar y rheilffyrdd eu heffeithio am fwy na 24 awr ar ôl y digwyddiad.
Fe wnaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydain arestio dyn 32 oed a gafodd ei ryddhau o dan ymchwiliad.
Fe gafodd dau o'r bobl a oedd wedi eu hanafu eu cludo i'r ysbyty am driniaeth cyn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach.