Caerfyrddin: Apêl am wybodaeth ar ôl dwyn fan gyda dau gi ynddo
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth ar ôl i fan gyda dau gi ynddo gael ei dwyn o Gaerfyrddin.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y fan Ford las wedi ei chymryd toc wedi 07:20 ddydd Mercher.
Fe gafodd ei darganfod ym mhentref Bronwydd i’r gogledd o Gaerfyrddin ddwy awr yn ddiweddarach ac mae’r cŵn wedi eu dychwelyd at eu perchennog.
“Rydyn ni’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad ac adnabod unrhyw rai sydd dan amheuaeth i gysylltu â ni,” meddai’r heddlu.
“Hoffem glywed gan unrhyw un a fu’n teithio rhwng Stryd y Berllan, i'r gronfa ddŵr yn Nhanerdy ac yna i faes parcio neuadd bentref Bronwydd rhwng 06:30 a 09:45.
“A fyddai modd gwirio unrhyw gamerâu cylch cyfyng, fideo cloch drws neu gamera dangosfwrdd cerbyd am weld y cerbyd yn y ddelwedd.”