Trump yn gwahardd pobl o 12 gwlad rhag mynd i America
Mae'r Arlywydd Trump wedi arwyddo gorchymyn i wahardd pobl o 12 gwlad rhag cael mynediad i Unol Daleithiau America.
Dywedodd yr Arlywydd fod hyn mewn ymgais i "amddiffyn Americanwyr rhag pobl peryglus o dramor".
Mae Affghanistan, Libya, Iran a Sudan ymysg y 12 gwlad sydd wedi eu gwahardd.
Bydd y gorchymyn yn dod i rym ddydd Llun, 9 Mehefin.
Mae saith gwlad arall sy'n wynebu cyfyngiadau teithio rhannol, gan gynnwys Ciwba a Venezuela.
Mae rhai eithriadau, gan gynnwys athletwyr sy'n teithio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr, rhai dinasyddion o Affghanistan a phobl â chenedligrwydd deuol sydd â dinasyddiaeth mewn gwledydd sydd heb eu heffeithio.
Wrth gyhoeddi'r gwaharddiad, fe wnaeth yr Arlywydd Trump gyfeirio at yr ymosodiad yn Colorado ddydd Sul.
Mae dyn yn Colorado wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad ar grŵp o brotestwyr a wnaeth ddod at ei gilydd ddydd Sul i gefnogi gwystlon o Israel.
Y gred yw fod y dyn a'i deulu yn ddinasyddion o'r Aifft.
Dywedodd Donald Trump fod yr ymosodiad yn amlinellu y "peryglon eithafol" o ddinasyddion tramor yn cael mynediad i America heb "gael eu fetio'n iawn".
Ond nid yw'r Aifft ar y rhestr o'r gwledydd sydd wedi eu gwahardd o dan orchymyn Trump.